Symud at y prif gynnwys

Ysgoloriaeth Pritchard a Moore 2026

Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o lansio Ysgoloriaeth Pritchard a Moore, sy’n anrhydeddu etifeddiaethau Dr John Pritchard a’r Athro John Moore.

Statws

Agored

Bu gan Dr Pritchard a’r Athro Moore yrfaoedd nodedig yng Nghanolfan Ganser Felindre ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn ymchwil ym maes radiotherapi.

Gyda’i gilydd, bu iddynt gefnogi datblygiad gyrfa academaidd nifer o aelodau staff a helpu i sefydlu Felindre fel canolfan ragoriaeth ymchwil. Bu’r ddau hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru yn flaenorol, gyda’r Athro Moore yn mynd ymlaen i fod yn Llywydd yr elusen.

I anrhydeddu eu hetifeddiaeth, mae Ymchwil Canser Cymru wedi sefydlu Ysgoloriaeth Pritchard a Moore, a fydd yn cefnogi ymchwilydd talentog i gynnal prosiect ymchwil arloesol ym maes radiotherapi neu feysydd cysylltiedig.

Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bob rhan o Gymru a bydd yn ariannu myfyrwyr PhD neu gymrodoriaeth ôl-ddoethurol, naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser.

Gwahoddir cynigion o’r disgyblaethau canlynol:

  • Radiomeg a Radiogenomeg
  • Delweddu Meddygol
  • Radiotherapi Moleciwlaidd
  • Astudiaethau cyn-glinigol (megis Radiofioleg, sensiteiddwyr difrod DNA)
  • Therapïau cyfunol sy’n cynnwys radiotherapi
  • Cynllunio Triniaeth a Sicrhau Ansawdd
  • Technolegau radiotherapi newydd

Os nad ydych yn siŵr a yw eich cynnig yn cyd-fynd â chwmpas yr Ysgoloriaeth, cysylltwch â’r Pennaeth Ymchwil, Dr Lee Campbell, yn lee.campbell@cancerresearchwales.org.uk.

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau i grants@cancerresearchwales.org.uk.

Dyddiadau Allweddol:

Dyddiad Cau Mynegi Diddordeb

29 Mehefin 2026

Gwahoddiad i Gyflwyno Cais Llawn

17 Gorffennaf 2026

Dyddiad cau ceisiadau

28 Medi 2026

Mae Ymchwil Canser Cymru yn cadw’r hawl i ddiwygio’r dyddiadau hyn lle bo’n angenrheidiol.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd