Rydyn ni i gyd yn dymuno cael mwy o amser dros y Nadolig. Diolch i ymchwil arloesol a ariennir gan unig elusen ymchwil canser Cymru, mae mwy o deuluoedd yn cael yr union beth yna: mwy o gwtshio, mwy o chwerthin, mwy o gariad—mwy o amser gyda'i gilydd.
Y Nadolig hwn, bydd eich rhodd yn helpu i sicrhau amser gwerthfawr i gleifion canser yma yng Nghymru. Cleifion fel Amy o Gwmbrân. Wedi cael diagnosis o ganser y fron triphlyg-negatif ymosodol a hithau ond yn 29 oed, roedd gan Amy fabi chwe mis oed a phlentyn pum mlwydd oed gartref. Ei hunig nod y flwyddyn honno oedd peidio â methu Nadolig cyntaf ei mab.
Rhannodd Amy, ei gŵr Andrew a'u plant Ben a Phoebe eu stori bwerus, a nhw yw sêr ein hysbyseb deledu gyntaf erioed sy’n dangos realiti canser a'r gobaith am ganlyniadau gwell
Heddiw, bron i chwe blynedd ar ôl ei thriniaeth lwyddiannus, mae Amy ac Andrew yn paratoi ar gyfer Nadolig prysur arall gyda'r plant, yn llawn atgofion arwyddocaol fydd yn para am oes, diolch i ymchwil arloesol sy'n trawsnewid sut mae canser yn cael ei ddiagnosio a'i drin.
Rhowch i Ymchwil Canser Cymru y Nadolig hwn er mwyn rhoi amser fel anrheg i deuluoedd fel un Amy.