Skip to main content

Scientific Committee

The Cancer Research Wales Scientific Committee makes recommendations to the Board of Trustees on funding decisions and advise on the charity's Research Strategy.

Our Scientific Committee members are:

Prof Chris Fegan - Chair

Mae’r Athro Fegan yn haematolegydd clinigol wedi ymddeol ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Fegan hefyd yn gyn-Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn gyd-sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Meddygol yn Telonostix.

Prof Huw Griffiths

Mae’r Athro Griffiths yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, gyda arbenigedd mewn ffiseg feddygol a delweddu meddygol ar gyfer nifer o fathau o ganser. Mae’r Athro Griffiths wedi gwasanaethu o’r blaen ar baneli dyfarnu ar ran nifer o sefydliadau ariannu mawr, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol.

Dr Heather Wilkes

Mae Dr Wilkes yn feddyg teulu wedi’i leoli yn Llansawel ac yn arweinydd cenedlaethol Canolfannau Diagnostig Cyflym yng Nghymru, gyda arbenigedd mewn gofal sylfaenol a systemau iechyd.

Prof Shareen Doak

Mae’r Athro Doak yn Athro Genotocsicoleg a Chanser yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, lle mae’n gyd-arweinydd y Grŵp Tocsicoleg Mewn Prawf. Mae hi’n Docsicolegydd Cofrestredig yn y DU ac gyda EUROTOX, yn Gymrawd gwadd o Gymdeithas Frenhinol Bioleg (FRSB), ac yn Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW).

Dr Mark Davies

Mae Dr Davies yn oncolegydd ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, yn arbenigo yn nhriniaeth canser y fron, ac wedi gwneud PhD mewn geneteg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ymchwil Dr Davies yn canolbwyntio ar ofal canser personol.