Symud at y prif gynnwys

Cymryd Rhan

Dod yn wirfoddolwr

Rhowch eich amser fel gwirfoddolwr i Ymchwil Canser Cymru a helpu i uno Cymru yn erbyn canser

Drwy ymuno â'n cymuned o wirfoddolwyr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i ariannu gwaith ymchwil arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol i fywydau ffrindiau, teulu a chymdogion ledled Cymru.

Mae gwirfoddoli gydag Ymchwil Canser Cymru hefyd yn gyfle i ennill rhywbeth ystyrlon i chi'ch hun.

Fel gwirfoddolwr, gallwch:

  • Feithrin sgiliau a hyder newydd - o wasanaeth i gwsmeriaid i waith tîm, cyfathrebu a datrys problemau.
  • Gwella eich CV a'ch rhagolygon gyrfa - mae profiad fel gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr, a gall agor drysau i gyfleoedd newydd.
  • Cysylltu â'ch cymuned - cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau, a dod yn rhan o dîm cefnogol ac angerddol.
  • Rhoi yn ôl mewn ffordd sy'n addas i chi - gyda rolau, oriau a chyfrifoldebau hyblyg sy'n cyd-fynd â'ch bywyd.
  • Cael effaith uniongyrchol – mae pob awr a roddwch yn cefnogi gwaith ymchwil sy'n achub bywydau ac yn gwella canlyniadau canser i bobl ledled Cymru.
  • Teimlo’n dda o wybod eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth – mae eich cyfraniad yn helpu i ddod â gobaith, cynnydd a dyfodol gwell i deuluoedd yr effeithir arnyn nhw gan ganser.

Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol iachach a disgleiriach i Gymru.