Symud at y prif gynnwys

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Mae Ymchwil Canser Cymru yn ymrwymo i helpu ymchwilwyr i gyflawni’r gwaith gorau. Rydym ni’n ariannu ymchwil o’r radd flaenaf i fynd i’r afael â’r heriau mawr a’r blaenoriaethau allweddol i ganser yng Nghymru. Gallwn eich helpu i droi eich syniadau ymchwil yn realiti a, gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid canser yng Nghymru a thu hwnt.

Darllenwch y dogfennau isod cyn gwneud cais. Rydym ni’n llawn cyffro i weithio gyda chi a helpu newid bywydau yng Nghymru.

Mae Ymchwil Canser Cymru yn aelod o’r Gymdeithas Elusennau Ymchwil Feddygol ac rydym yn dilyn eu canllawiau o ran prosesau adolygu grantiau a sicrhau ein bod yn dilyn yr arfer gorau. Rydym ni’n dilyn proses drylwyr i sicrhau ein bod ond yn ariannu ymchwil o ansawdd uchel. Mae camau’r broses wedi’u hamlinellu isod:

  1. Agor y Cynllun Grantiau – Caiff ymchwilwyr eu gwahodd i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb.
  2. Asesiad Cychwynnol – Mae mynegiannau o ddiddordeb yn cael eu gwirio i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys a’u bod yn cyd-fynd â nodau strategol Ymchwil Canser Cymru. Bydd y rhai sy’n llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau llawn.
  3. Proses Adolygu gan Gymheiriaid - Bydd ceisiadau llawn yn cael eu hanfon at o leiaf 3 arbenigwr allanol annibynnol yn y maes perthnasol. Gofynnir i adolygwyr roi sgôr i’r cais a rhoi sylwadau arno. Lle bo’n briodol, gellir gofyn i’r ymgeiswyr am wrthodiad i fynd i’r afael â phwyntiau y mae’r adolygwyr yn eu codi. Bydd adborth anhysbys gan yr adolygwyr yn cael ei ddarparu i bob ymgeisydd.
  4. Argymhelliad y Pwyllgor Gwyddonol – Mae Pwyllgor Gwyddonol Ymchwil Canser Cymru yn craffu ar, a phleidleisio ar, bob cais, gan gyfrif am y sgorau a’r sylwadau gan yr adolygwyr cymheiriaid. Dim ond y ceisiadau cryfaf sy’n cael eu hargymell am gyllid.
  5. Penderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr – Caiff argymhellion y Pwyllgor Gwyddonol eu cyfleu i Fwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru, sy’n rhoi’r gymeradwyaeth derfynol am gyllid.
Yn ystod y cyfnod ariannu, mae Ymchwil Canser Cymru’n cadw mewn cysylltiad â’r ymchwilwyr yn rheolaidd ac mae’n cynnal proses flynyddol, ffurfiol o fonitro cynnydd.

Hefyd, rydym ni angen i ymchwilwyr gyflwyno allbynnau a deilliannau eu gwaith i’r platfform monitro effaith, Researchfish, yn flynyddol.

Yn ogystal â’r Gymdeithas Elusennau Ymchwil Feddygol (AMRC), mae Ymchwil Canser Cymru hefyd yn aelod o’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Canser (NCRI) a Chynghrair Canser Cymru. Mae Ymchwil Canser Cymru hefyd yn aelod gweithgar o Grwpiau Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar Ganser ac Ymchwil Feddygol.

Nid yw Ymchwil Canser Cymru yn ariannu ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid ac nid yw’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Fel aelod o AMRC, mae Ymchwil Canser Cymru yn derbyn datganiad sefyllfa AMRC ar ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil.