Symud at y prif gynnwys

Nawr yw’r amser am ymchwil.

Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd canser ar 230,000 o bobl ar draws Cymru. Ni fu ein hymchwil erioed mor bwysig. Gall rhoddion mewn ewyllysiau helpu i greu dyfodol gwell i bob un sydd â phob canser ar draws Cymru. Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, ystyriwch adael gwaddol i helpu trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.

Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi:

Ariannu

£17,500,000

Cefnogi

60

Dr Ramsay McFarlane

Prifysgol Bangor

“Mae Ymchwil Canser Cymru yn mabwysiadu ymagwedd uniongyrchol, ymarferol at weithio gyda ni, sydd wedi ein galluogi i greu synergedd gwirioneddol er budd cleifion. Dyma pam rydym ni o’r farn mai Ymchwil Canser Cymru yw ein partner pwysicaf wrth sicrhau bod pobl Cymru’n elwa o wyddor glinigol o ansawdd uchel yn awr ac yn y dyfodol.”