Cwestiynau Cyffredin
Rwy’n poeni am ganser – at bwy galla’ i droi am help a chyngor?
Os ydych chi’n poeni am ganser neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am adnabod arwyddion canser, lleihau eich risg canser, triniaeth canser, symptomau a ffynonellau cymorth, ewch i NHS 111 Cymru.
Beth yw’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru?
Ac eithrio canserau’r croen nad ydynt yn felanoma (nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn ystadegau canser yn nodweddiadol), y mathau mwyaf cyffredin o ganserau yng Nghymru yw:
- Canser yr ysgyfaint
- Canser y coluddyn
- Canser y prostad
- Canser y fron
Sut mae Cymru’n cymharu â gwledydd eraill o ran canser?
Yn anffodus, mae Cymru ymhlith y gwledydd sy'n perfformio waethaf yn Ewrop o ran canlyniadau canser. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer y canserau a elwir yn 'ganserau llai goroesadwy', lle mae Cymru yn ymddangos yn y 3 isaf o ran cyfraddau goroesi ar gyfer canserau'r stumog, y pancreas a'r ysgyfaint, o'i gymharu â 33 o wledydd tebyg.
Hyd yn oed yng Nghymru, mae anghysondebau sylweddol yng nghanlyniadau canser rhwng gwahanol ardaloedd – a achosir yn bennaf gan amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mewn gwirionedd, mae gan bobl o rannau mwyaf difreintiedig Cymru bron i 20% yn fwy o achosion o ganser a chyfradd goroesi 5 mlynedd 17% yn is o'i gymharu â'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog. Gallwch ddarllen mwy am y materion hyn yma.
Beth yw canser?
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae canser yn derm cyffredinol am grŵp mawr o glefydau a all effeithio ar unrhyw ran o’r corff. Termau eraill sy’n cael eu defnyddio yw tiwmorau malaen a neoplasmau.
Nodwedd ddiffiniol canser yw bod celloedd annormal sy’n tyfu’r tu hwnt i’w ffiniau arferol yn cael eu creu’n gyflym iawn, yna gallant ymwthio i rannau cyfagos o’r corff a lledaenu i organau eraill; yr enw ar y broses ledaenu hon yw metastasis. Metastasisau eang yw prif achos marwolaeth o ganser.
Beth sy’n achosi canser?
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd fod canser yn deillio o gelloedd normal yn trawsnewid yn gelloedd tiwmor mewn proses aml-gam sydd, yn gyffredinol, yn symud o nam cyn-ganseraidd cychwynnol i diwmor malaen. Mae’r newidiadau hyn o ganlyniad i’r rhyngweithio rhwng ffactorau genynnol person a ffactorau allanol, a elwir yn garsinogenau. Mae tair ffurf ar garsinogenau:
- Carsinogenau ffisegol, fel uwch-fioled ac ymbelydredd sy’n ïoneiddio
- Carsinogenau cemegol, fel asbestos, elfennau o fwg tybaco, alcohol, afflatocsin (halogydd o fwyd), ac arsenig (halogydd o ddŵr yfed
- Carsinogenau biolegol, fel heintiau o firysau, bacteria neu barasitiaid penodol
Beth mae Ymchwil Canser Cymru yn ei wneud?
Ers 1966, mae Ymchwil Canser Cymru wedi buddsoddi dros £35 miliwn i ariannu’r ymchwilwyr, y clinigwyr a’r gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i wthio ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru.
Mae ein hymchwil yn cynnig gobaith i bobl y mae canser yn effeithio arnynt heddiw a bydd yn trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau canser yng Nghymru.
Rydym yn ariannu ymchwil ar draws pedair thema yn fras:
- Darganfod ac ymchwil drosiadol
- Diagnosis cynnar, atal a sgrinio
- Triniaethau gwell
- Systemau a deilliannau iechyd
Ar hyn o bryd, mae gennym dros £7,600,000 wedi’i fuddsoddi mewn 40 prosiect gweithredol sy’n ymchwilio i ddiagnosis cynt a thriniaethau gwell, mwy caredig, ar gyfer canser.
Mae hyn yn cynnwys bron i £3,000,000 rydym ni wedi’i fuddsoddi mewn pedwar treial clinigol yma yng Nghymru.
Gallwch ddysgu rhagor am ein hymchwil arloesol i ganser yma.
A yw Ymchwil Canser Cymru yn rhan o elusen arall?
Nac ydyw. Nid yw Ymchwil Canser Cymru yn rhan o unrhyw elusennau canser eraill nac yn gysylltiedig â nhw. Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen Gymreig annibynnol a sefydlwyd yng Nghaerdydd ym 1966.
Mae ein pencadlys yng Nghaerdydd yn 22 Neptune Court, Vanguard Way, Caerdydd CF24 5PJ.
A oes grantiau neu gymrodoriaethau ar gael i ymchwilwyr?
Mae Ymchwil Canser Cymru yn bodoli i gefnogi'r gwyddonwyr a'r clinigwyr gorau ledled Cymru i gynnal ymchwil o ansawdd uchel, gyda'r nod o wella canlyniadau canser.
Rydym yn darparu cyllid drwy nifer o gynlluniau grant, sydd bob amser yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan, yma.
Mae'r grantiau a gynigir yn amrywio o grantiau Arloesi, sy'n cefnogi astudiaethau peilot ar raddfa fach, i grantiau mwy fel Cymrodoriaethau, sy'n cefnogi datblygiad gyrfa'r ymchwilwyr ifanc gorau dros 5 mlynedd.