Symud at y prif gynnwys

Rhannwch eich stori

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich stori. Gall y straeon a'r profiadau personol y mae ein cefnogwyr yn eu rhannu â ni helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser, y materion sy'n effeithio ar gleifion, a'r gwaith rydym yn ei wneud yn ariannu ymchwil o'r radd flaenaf. Efallai y byddwn yn gallu defnyddio'ch stori ar ein gwefan, mewn gweithgarwch yn y cyfryngau, ar sianeli digidol a chyfryngau cymdeithasol, yn ein deunyddiau codi arian neu ymgyrchu.

Efallai na fyddwn yn gallu ymateb i bawb sy'n cyflwyno'r ffurflen hon, ond wrth gwrs byddwn bob amser yn cysylltu i ofyn am eich caniatâd cyn i ni ddefnyddio eich stori. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich stori, cysylltwch â ni ar 029 2185 5050.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych. Diolch am rannu eich stori gyda ni.

Keeping in touch

Mae eich cefnogaeth yn bwysig, a byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â chi am ein hymchwil a ffyrdd eraill y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru, gan gynnwys ymgyrchu, codi arian a gwirfoddoli. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad drwy'r post bob hyn a hyn oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Rhowch wybod i ni os ydych hefyd yn hapus i glywed gennym drwy e-bost a dros y ffôn:

Gallwch optio allan ar unrhyw adeg, felly os byddwch yn newid eich meddwl am glywed gennym ni, neu sut rydym yn cysylltu â chi, ffoniwch ni ar 02921 855050 neu anfonwch e-bost atom yn contact-us@cancerresearchwales.org.uk

Rydym yn addo cadw'ch manylion yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu i unrhyw drydydd parti. Gall eich gwybodaeth gael ei phrosesu ar ein rhan gan gyflenwyr a ddewiswyd yn ofalus. Gweler ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod mwy am eich hawliau, a sut rydym yn rheoli, defnyddio a gofalu am eich gwybodaeth bersonol.