Symud at y prif gynnwys

Ein hanes

Ers 1966, mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn achub bywydau yma yng Nghymru.

Llinell amser

1966

Sefydlu Ymchwil Canser Cymru fel Cyngor Ymchwil Canser De Cymru gan Dr Ken Davies.

1968

Mae'r elusen yn dechrau cyhoeddi ein hadroddiadau deuol a blynyddol cyntaf am y gwaith ymchwil a gynhelir.

1985

Penodi ein sylfaenydd - Dr Ken Davies, yn gadeirydd yr elusen

1989

Cydnabod ein hadran radiofioleg yn ffurfiol gan Brifysgol Cymru am ei chyfraniadau i addysgu ac ymchwil canser.

1990

Ymchwil Canser Cymru yn mabwysiadu ein henw newydd

1991

Ymchwil Canser Cymru yn agor llyfrgell ganser arbenigol gyntaf Cymru yn y Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle’r oeddem wedi ein lleoli ar y pryd.

1992

Blwyddyn wyddonol lewyrchus iawn, gyda channoedd o gyfraniadau gennym i gyhoeddiadau ymchwil canser ac i gyfarfodydd ymchwil rhyngwladol.

1994

Mae Ymchwil Canser Cymru yn helpu i ariannu'r Uned Treialon Clinigol sydd yn agor yng Nghanolfan Canser Felindre.

1996

Yr Athro John Moore yn olynu Dr Davies fel ein cadeirydd, ac rydym yn neilltuo adnoddau mawr i adeiladu'r uned ymchwil newydd.

1997

Mae Ymchwil Canser Cymru yn parhau i weithredu fel partner i Ymddiriedolaeth GIG Felindre, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ymchwil drawsnewidiol.

1998

Mae hwn yn flwyddyn o ehangu cyflym i Ymchwil Ganser Cymru ac un lle y cyflogwyd ein staff parhaol cyntaf i arwain y gwaith codi arian a gweinyddiaeth.

1999

Penodi yr Athro Malcolm Mason yn athro oncoleg clinigol cyntaf Ymchwil Canser Cymru.

2000

Agor labordai Ymchwil Canser Cymru yng Nghanolfan Ganser Felindre - y cyntaf o'u math yng Nghymru.

2003

Mae Ymchwil Ganser Cymru yn un o ariannwyr Banc Canser Cymru.

2004

Mae Ymchwil Canser Cymru yn darparu cefnogaeth i sefydlu Banc Canser Cymru – y cyntaf o'i fath yn Ewrop.

2006

Ymchwil Canser Cymru yw un o'r aelodau sy’n sefydlu Cynghrair Canser Cymru.

2008

Sefydlu Pwyllgorau Codi Arian Aberhonddu a Phontsenni & Crughywel Ymchwil Canser Cymru.

2011

Mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu astudiaeth i archwilio effaith canser HPV ar ganserau pen a gwddf mewn dynion.

2013

Mae ein hariannu o Astudiaeth Meincnodi Rhyngwladol Cymru yn arwain at ffurfio Llwybr Canser Sengl yng Nghymru. Yn y flwyddyn hon hefyd, rydym yn ariannu'r ymchwil gychwynnol sydd yn arwain at sefydlu Trocept - piblinell therapiwteg canser o fri byd-eang sy'n gweld cleifion gyda chanserau llai goroesiadwy yn cael eu trin am y tro cyntaf gyda firysau peirianyddol sy'n dinistrio celloedd canser.

2016

Rydym yn ariannu’r treial radiotherapi 'PEARL' arloesol ar gyfer canser pen a gwddf – y treial radiotherapi cyntaf o’r fath yng Ngymru, ac yn dathlu ein pen-blwydd yn 50 gyda thaith gerdded 52 milltir ar draws y Sahara.

2017

Sefydlu cwmni CanSense ar gyfer ymchwil mewn diagnosis canser y colon drwy sganffotomedriaeth yn dilyn cyllid cychwynnol gan Ymchwil Canser Cymru.

2018

Cymeradwyo brechu HPV ar gyfer atal canser pen a gwddf yn cael ei gymeradwyo yng Nghymru.

2020

Ffurfio cwmni ImmunoServ Biotech Limited gan ddau imiwnolegydd o Gaerdydd a ariannwyd gennym.

2021

Ymchwil Canser Cymru yn lansio Gwobr Tom Walker ar gyfer ymchwil i lewcemia myeloid acíwt

2022

Rydym yn lansio ein brand ‘streipiog’ newydd ac mae treial gofal sylfaenol Cam 3 ThinkCancer! a noddir gennym ni yn dechrau.

2023

Ymchwil Canser Cymru yn symud i'n swyddfeydd presennol yn Nghwrt Neifion ac rydym yn ariannu astudiaeth canser y coluddyn ledled Cymru o’r enw Colospect.

2024

Agorwn nifer o siopau newydd - gan gynnwys ein siopau cyntaf erioed yn Ngogledd Cymru ac yn lansio'r Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI) i ddatblygu ymchwil a gwell triniaethau ar gyfer tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru.

2025

Agor ein siop newydd yng Nghaernarfon, rydym yn penodi ein 'Saith Seren' – llysgenhadon newydd Ymchwil Canser Cymru ac yn cynnal y gynhadledd BATRI ryngwladol gyntaf yng Nghaerdydd.

2026

Ymchwil Canser Cymru yn dathlu ein pen-blwydd yn 60 oed.