Symud at y prif gynnwys

Cymryd Rhan

Gadael rhodd yn eich Ewyllys

Gall rhoddion mewn ewyllysiau helpu i greu dyfodol gwell i bob un sydd â phob canser ar draws Cymru. Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, ystyriwch adael gwaddol i helpu trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.

Archebwch eich pecyn ewyllysiau am ddim heddiw

Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys i Ymchwil Canser Cymru yn un o’r ffyrdd mwyaf ystyrlon o helpu i ariannu ymchwil canser yma yng Nghymru. Mae pob rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn ein helpu i gefnogi ymchwil o’r radd flaenaf i ddatblygu triniaethau gwell, canfod canser yn gynharach a gwella canlyniadau i gleifion canser ledled Cymru.

Sut i adael rhodd yn eich Ewyllys

Gallwch ysgrifennu Ewyllys syml yn rhad ac am ddim, gwerth hyd at £150, drwy ein partneriaid, Octopus Legacy neu’r National Free Wills Network, heb unrhyw rwymedigaeth i gynnwys rhodd. Mae gennym hefyd ganllawiau ar y gwahanol fathau o roddion y gallwch eu gadael mewn Ewyllys, boed yn gyfran o’ch ystâd neu’n swm penodol.

Siaradwch â’n Tîm Rhoddion mewn Ewyllysiau

Oes gennych gwestiwn am adael rhodd yn eich Ewyllys, neu a oes gennych Ewyllys eisoes? Mae ein Tîm Rhoddion mewn Ewyllysiau yma i helpu. Cysylltwch â ni a byddwn yn falch o siarad â chi a’ch tywys drwy’r broses.

Rhoi yn ddi-dreth

Fel elusen gofrestredig, mae rhoddion a adewir i Ymchwil Canser Cymru wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant. Mae hynny’n golygu bod mwy o’ch haelioni yn mynd tuag at ariannu ymchwil, yn hytrach nag at dreth.

Dysgwch fwy am adael rhodd yn eich Ewyllys neu ysgrifennwch eich Ewyllys am ddim heddiw.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd