Symud at y prif gynnwys

Dr Lee Campbell

Ymunodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil, ag Ymchwil Canser Cymru yn 2010 i ddarparu goruchwyliaeth a llywodraethiant ymchwil ar gyfer y portffolio cyfoethog o brosiectau ymchwil canser clinigol ac academaidd a ariennir gan ein elusen mewn prifysgolion ac ysbytai ledled Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn mae Lee wedi goruchwylio ariannu a datblygu nifer o brosiectau ymchwil canser mawr sy'n flaenoriaeth strategol genedlaethol i Gymru ym meysydd gofal sylfaenol, diagnosis cynnar a thriniaethau gwell.

Mae hefyd wedi arwain ar agweddau ar bolisi canser gan weithio gyda Chynghrair Canser Cymru a Llywodraeth Cymru, lle mae wedi siarad mewn nifer o fforymau polisi Cymru a datganoledig San Steffan. Yn ogystal â hyn, mae wedi cymryd rhan mewn ysgrifennu rhai agweddau o gynllun cyflawni canser cyntaf Cymru yn 2012.

Cyn ymuno ag Ymchwil Canser Cymru, bu Lee yn gweithio mewn nifer o feysydd ymchwil academaidd gwahanol yn ymwneud â gwyddor fferyllol, cyflenwi cyffuriau, ffarmacoleg, patholeg a chanser, ac mae wedi cyhoeddi nifer o bapurau ymchwil, crynodebau a phenodau llyfrau yn y meysydd hyn.