Symud at y prif gynnwys

Dechrau arni i godi arian

Diolch enfawr am ddewis codi arian ar ran Ymchwil Canser Cymru. Mae haelioni yn rhan o DNA ein cefnogwyr ac mae eich cymorth yn rhoi gobaith at y dyfodol i bobl ar hyd a lled Cymru.

Rhannwch eich cynlluniau codi arian gyda ni!

Rydym ni yma i helpu

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad codi arian

Ydych chi wedi penderfynu ar eich gweithgaredd codi arian? Gwych! Dyma ein prif awgrymiadau ar gyfer dechrau arni.

1. Cofrestrwch eich syniad codi arian gyda ni. Y mwyaf rydym ni’n ei wybod am eich cynlluniau, y gorau y gallwn ni eich cefnogi ar y daith.

2. Gofynnwch am eich canllaw codi arian i helpu hyrwyddo eich gweithgaredd. P’un a oes angen posteri, tocynnau neu wahoddiadau arnoch chi, mae gennym ddigonedd o ddeunyddiau i’ch helpu chi.

3. Sefydlwch eich tudalen JustGiving. Dyma ffordd hawdd iawn i chi roi’r gair ar led am eich gweithgaredd codi arian ac i bobl roi arian mewn modd cyflym a syml. Mae Ymchwil Canser Cymru yn cael yr arian yn uniongyrchol ac nid oes angen i chi fynd i’r drafferth o gasglu rhoddion arian parod, felly gallwch ganolbwyntio ar eich cynlluniau codi arian hollbwysig! Ar ôl sefydlu eich tudalen codi arian, cofiwch ychwanegu manylion personol – bydd ychwanegu llun a stori yn disgrifio beth rydych chi’n ei wneud a pham, ynghyd â tharged codi arian, yn helpu’n fawr. Nid yn unig y bydd eich stori’n annog pobl i roi, gallai hefyd ysbrydoli rhywun arall i godi arian, felly byddwch yn falch o ddweud wrth bawb am eich cynlluniau!

4. Rhowch y gair ar led! Ar ôl i chi gofrestru’ch gweithgaredd codi arian gyda ni, lawrlwytho ein canllaw a sefydlu tudalen JustGiving, mae’n bryd rhoi’r gair ar led! Beth am ddechrau trwy anfon eich dolen i JustGiving gyda neges bersonol at eich teulu a’ch ffrindiau? Oddi wrthyn nhw rydych chi’n fwyaf tebygol o gael eich rhoddion cyntaf, a bydd hynny’n annog pobl eraill i wneud yr un peth. Yna, gwyliwch y cyfanswm yn codi!