Symud at y prif gynnwys

Trosglwyddo’r arian godoch chi

P’un a ydych chi wedi codi arian i Ymchwil Canser Cymru trwy drefnu digwyddiad, eillio’ch pen, neu werthu cacennau, bydd yr arian a godoch chi yn helpu i drawsnewid bywyd pobl â chanser yng Nghymru. Diolch enfawr i chi am eich ymdrechion!

Unrhyw gwestiynau?

Rydym yn hapus i helpu

Cadw mewn cysylltiad

Gallwch dalu’r arian a godoch i mewn yn gyflym ac yn hawdd! Dyma ambell ffordd o wneud:

Dros y ffôn

Ffoniwch ni ar 029 2185 5050 a thalu’r arian a godoch i mewn gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd. Rydym ni yma i helpu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm.

Trwy drosglwyddiad banc

Gallwch drosglwyddo’r arian a godoch yn gyflym ac yn hawdd i gyfrif banc Ymchwil Canser Cymru. Ffoniwch ni ar 029 2185 5050 a gallwn roi ein manylion banc i chi.

Drwy’r post

If you’d like to pay by cheque, please make it payable to ‘Cancer Research Wales’ and send it to us at the following address:

Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Caerdydd
CF24 5PJ

Cofiwch ychwanegu nodyn gyda’r siec gyda’ch manylion, fel y gallwn ddiolch i chi’n iawn am godi arian. Peidiwch ag anfon arian parod yn y post.

Trwy eich tudalen JustGiving

Os ydych chi eisoes wedi sefydlu tudalen JustGiving i dderbyn rhoddion ar gyfer eich gweithgaredd codi arian, gallwch dalu unrhyw roddion arian ychwanegol a gewch chi i mewn ar eich tudalen.

Diolch o galon. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn bod canser yn glefyd sy’n bygwth bywyd.