Symud at y prif gynnwys

Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys yn Rhad ac am Ddim

Gwneud Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau y bydd eich dymuniadau’n cael eu cyflawni. Mae’n rhywbeth rydym ni’n ei esgeuluso yn aml, ond nid oes angen iddo fod yn anodd nac yn ddrud. Rydym ni wedi llunio partneriaeth â dau wasanaeth i helpu ein cefnogwyr i wneud Ewyllys syml, am ddim.

Ewyllysiau Am Ddim Ar-lein

Rydin ni wedi partneru â chynllunwyr ystadau arbenigol, Octopus Legacy, fel y gallwch lunio neu ddiweddaru eich ewyllys am ddim.

Byddwn yn talu am gost eich ewyllys hyd at £150 - felly gallwch lunio neu ddiweddaru ewyllys syml am ddim neu gael ewyllys gydag ymddiriedolaeth am ddisgownt. Er bod llawer o gefnogwyr yn dewis cynnwys rhodd yn eu hewyllys i Ymchwil Canser Cymru, does dim rhwymedigaeth i wneud hynny wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Sut i ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys

Dewch o hyd i'r ewyllys gywir i chi. Gallwch lunio eich ewyllys:

  • Ar-lein
  • Dros y ffôn/galwad fideo
  • Yn y cnawd (gartref neu yn y gangen)

Neu ffoniwch Octopus Legacy yn uniongyrchol ar 020 4525 3605 a dyfynnwch Ymchwil Canser Cymru.

*Yn berthnasol i ewyllysiau syml yn unig. Mae disgowntiau’n berthnasol ar gyfer ewyllysiau gydag ymddiriedolaethau.

Ysgrifennu Ewyllys rhad ac am ddim wyneb i wyneb

Yn ogystal, rydym ni a’r Rhwydwaith Ewyllysiau Cenedlaethol Am Ddim wedi dod at ein gilydd fel y gallwch wneud neu ddiweddaru Ewyllys syml, am ddim, trwy gyfreithiwr lleol. Cysylltwch â ni i roi gwybod yr hoffech chi ddefnyddio’r Rhwydwaith Ewyllysiau Cenedlaethol Am Ddim. Yna, byddwn yn eich cyfeirio at y Rhwydwaith a byddant yn anfon pecyn yn uniongyrchol atoch chi, yn cynnwys rhestr o’ch cyfreithwyr lleol sy’n cymryd rhan a ffurflen. Cysylltwch â’r cyfreithiwr o’ch dewis i drefnu apwyntiad, ewch â’ch ffurflen orffenedig gyda chi a chewch eich Ewyllys syml wedi’i hysgrifennu am ddim.