Cwpwl o Ogledd Cymru yn seiclo 1,000 milltir i Ymchwil Canser Cymru
Bu cwpl dewr o Ogledd Cymru yn wynebu tywydd poeth o 40 gradd dros yr haf i feicio 1,000 milltir ar draws Ffrainc er mwyn codi arian i Ymchwil Canser Cymru
Cefnogwch ymdrech godi arian anhygoel Eleri ac Eifion yma:
JustGiving
Daw Eleri ac Eifion Owen o Abererch ger Pwllheli a heriodd y ddau eu hunain er cof am dad Eleri a mam Eifion a gollasant i ganser.
Yn ystod taith eithriadol y cwpl, fe aethant ar eu beiciau o Saint-Malo yn Llydaw i Nice ar Côte d’Azur mewn llai na thair wythnos.
Ar ôl dechrau ar 6 Gorffennaf, cyrhaeddasant ben eu taith yn Ne Ffrainc ar y 26 Gorffennaf, ac yn ystod y cyfnod hwn daeth Eleri ac Eifion wyneb yn wyneb â rhai heriau ar y ffordd.
“Roeddwn yn gwybod o flaen llaw fod ein taith am ein harwain ar draws pob rhan o Ffrainc, heb gefnogaeth ar ein beiciau ac roedd yn rhaid i ni ymdopi â thymheredd poeth yr haf, panniers beic trwm ac elltydd serth” meddai Eleri, a gafodd lawdriniaeth clun naw mis cyn yr antur.
“Ond roedd llawer o uchafbwyntiau gan gynnwys Cwm Verdon, cwblhau’r ddringfa, nofio yn afon Lot pan oedd 40 gradd, caeau o flodau’r haul, lafant a nifer o brydau bwyd cofiadwy yn amrywio o iogwrt a phasta o archfarchnadoedd i plat du jours gwych a physgod yn Cancale”, ychwanegodd Eleri.
Ar eu taith, beiciodd y cwpwl drwy ddyffryn hanesyddol y Loire a'r Dordogne prydferth gan ddringo cyfanswm o 55,000 troedfedd o uchder gan gynnwys llethr diddiwedd y Massif Central a'r Alps Maritime.
“Roedd hwn yn antur a hanner,” meddai Eleri, “Nid oedd methu’n opsiwn - rydym yn ddau'n eithaf penderfynol! Roedd yn rhaid i ni gyflawni ein cenhadaeth codi arian! Mae’n bum mlynedd eleni ers colli fy nhad, a 14 mlynedd ers i fam Eifion farw o ganser.”
Meddai Lisa Buckley, Pennaeth Codi Incwm yn Ymchwil Canser Cymru:“Mae Eleri ac Eifion yn ysbrydoliaeth ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu hymdrechion anhygoel i godi arian i Ymchwil Canser Cymru.
Maent wedi mynd y filltir ychwanegol – 1,000 i fod yn fanwl mewn tywydd poeth iawn cyfandirol ac i fyny coloedd mynydd serth, ac fe ddylent fod yn falch iawn o’u cyflawniad.”