Cynhadledd gyntaf tiwmorau’r ymennydd Cymru i ddigwydd yng Nghaerdydd
Mae cynhadledd Tiwmorau’r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru yn digwydd yn Maes Criced Morgannwg ar ddydd Gwener 19 Medi

Bydd 100 o arbenigwyr o Wlad Belg, Denmarc, yr Almaen, Cymru a Lloegr yn ymgynnull i edrych ar ffyrdd newydd o ddiagnosio a thrin tiwmorau’r ymennydd.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ymchwil newydd a'r treialon clinigol a fydd ar gael yn fuan i gleifion Cymreig a fydd wedi'u diagnosis â thiwmorau’r ymennydd.
Caiff y rheini fydd yn bresennol ddysgu am gyflwyno dulliau newydd i gefnogi cleifion a'u teuluoedd wrth iddynt wynebu’r broses anodd o ddelio â chanser.
Bydd sylw yn cael ei roi i astudiaethau newydd gan gynnwys un sydd yn defnyddio meysydd trydanol amrywiol fel dull o atal twf tiwmorau’r ymennydd.
Bydd hefyd yn cael ei arddangos y defnydd o firws cyffredin di-heintus sydd wedi ei addasu i adnabod ac i fynd i mewn i gelloedd tiwmor yr ymennydd lle mae’n rhyddhau ei lwyth gwrth-ganser, yn debyg i geffyl Troea.
Canlyniadau tiwmorau’r ymennydd yn annerbyniol
Meddai Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yr elusen Ymchwil Canser Cymru:
“Mae canlyniadau ar gyfer cleifion gyda thiwmorau’r ymennydd wedi bod yn annerbyniol o wael am rhy hir, ac mae'n faes o ymchwil nad ydi wedi ei ariannu’n ddigonol ers cryn amser, yn arbennig yma yng Nghymru.
“Rydyn ni'n teimlo’n gyffrous iawn i gael cynnal y gynhadledd hon, gan mai hi yw'r cyntaf o'i math i gael ei chynnal yng Nghymru erioed, ac mae'n wych gweld rhai o arbenigwyr mwyaf Ewrop yn mynychu.
“Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn llwyfan ar gyfer adeiladu amgylchedd ymchwil a thriniaeth tiwmorau’r ymennydd fydd yn ffynnu yma yng Nghymru, gan ei fod yn hysbys bod byrddau iechyd lleol â phwyslais ar ymchwil bob amser yn cael canlyniadau gwell i gleifion, ac mae hyn yn rhywbeth y mae cleifion tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru yn ei angen a’i haeddu.
Cyfraddau goroesi 'prin wedi gwella dros y 30 mlynedd diwethaf'
Sefydlwyd y Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd gan Ymchwil Canser Cymru yn 2024.
Hyd yn hyn mae wedi buddsoddi dros £1 miliwn mewn prosiectau ymchwil tiwmorau’r ymennydd newydd yng Nghymru ac fe fydd yn buddsoddi hyd at £1 miliwn arall eleni.
Er mai tiwmorau'r ymennydd yw’r prif reswm am farwolaeth oherwydd canser ymysg pobl o dan 40 oed, dim ond 2 y cant o'r holl arian a wariwyd ar ymchwil canser yn hanesyddol y mae’r maes yma wedi ei dderbyn.
Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser sydd wedi gweld gwelliannau mawr, prin mae cyfraddau goroesi ar gyfer cleifion tiwmorau’r ymennydd ymysg oedolion wedi gwella dros y 30 mlynedd diwethaf.
‘Tiwmorau’r ymennydd yn arbennig o greulon’
Mae Kathy - sydd wedi gofyn na chaiff ei henw llawn ei ddefnyddio, o Dde Cymru ac mae hi'n siarad yn y digwyddiad. Daeth hi'n gynrychiolydd cyfranogiad cyhoeddus a chleifion (PPI) gydag ymchwilio tiwmorau'r ymennydd ar ôl i'w gŵr farw o diwmor yn 2008.
“Bu farw fy ngŵr yn yr hosbis o fewn blwyddyn ar ôl diagnosis. Nid oedd yn 60 oed eto ac rydym yn myfyrio’n aml, a gyda thristwch mawr, ar y nifer o ddigwyddiadau teuluol a lle roeddem yn colli ei gwmni. Roedd hyn yn cynnwys seremonïau graddio, priodasau a phenblwyddi ein hwyrion gwych.
Byddai wedi cyfrannu cymaint gyda’i bresenoldeb ar yr adegau hyn a llawer mwy” meddai Kathy.
“Rwy'n helpu nawr gyda mewnbwn PPI mewn nifer o feysydd ymchwil canser - i gynnig profiad llaw gyntaf. Ymchwil tiwmorau'r ymennydd yw un o’r rhain oherwydd fy mhrofiad personol.
Mae tiwmorau'r ymennydd yn arbennig o greulon o ran yr effeithiau personol dinistriol a'r diffyg gobaith. Mawr yw fy niolch am y Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd gan Ymchwil Canser Cymru - am yr ymchwil y mae'n ei gwneud yn bosibl a'r gobaith y mae'n ei ddarparu” ychwanegodd hi.
‘Mynediad at dreialon clinigol yn hanfodol bwysig‘
Mae Dr James Powell, Oncolegydd Ymgynghorol yn Ganolfan Ganser Felindre, yn arweinydd clinigol ar y Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd, yn agor y gynhadledd. Dywedodd:
“Gwyddom fod cynnig mynediad i gleifion i dreialon clinigol yn hanfodol bwysig gan fod hyn yn darparu cyfleoedd i gleifion dderbyn y triniaethau diweddaraf arloesol ar gyfer tiwmorau’r ymennydd.
Yn Ganolfan Ganser Felindre, rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn cynnig cyfle i gleifion gymryd rhan yn y treialon clinigol tiwmorau’r ymennydd portffolio cenedlaethol diweddaraf.
“Pleser oedd gweld hyn wedi ei adlewyrchu yn ein gwobr ddiweddar gan Ganolfan Rhagoriaeth Tessa Jowell lle dangoswyd ein bod yn cynnig mynediad i fwy o dreialon a astudiaethau i gleifion â thiwmorau’r ymennydd nag unrhyw ganolfan arall yn y DU.
Rhoddodd y wobr gydnabyddiaeth hefyd i Ymchwil Canser Cymru am annog amgylchedd ymchwil a thriniaeth tiwmorau’r ymennydd ffyniannus. Rydym yn ddiolchgar i bobl Cymru am eu holl gefnogaeth i gyflawnni hyn.”