Goroeswr a oedd yn credu ei bod yn ‘ddiogel rhag ganser' yn cefnogi Dangosa dy Streips 2025
Mae menyw a oroesodd ganser y coluddyn cam pedwar yn annog eraill i gefnogi Ymchwil Canser Cymru i helpu i ariannu gwaith sy'n newid bywydau

Cafodd Rachel Reed ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2018 yn 33 oed ar ôl treulio 18 mis yn chwilio am atebion i symptomau a oedd yn cynnwys poen yn yr abdomen a blinder.
Roedd y diagnosis yn sioc i Rachel a oedd yn credu ei bod yn ddiogel rhag ganser gan ei bod yn heini ac yn gofalu am ei hiechyd.
Yn ffodus, ar ôl dwy lawdriniaeth fawr a chemotherapi, cafodd Rachel wybod ei bod yn glir o ganser ym mis Ebrill 2020 ac mae wedi treulio'r blynyddoedd ers hynny yn gwella ac yn ailadeiladu ei bywyd.
Yng Nghymru, canser sy’n achosi tua 1 o bob 4 o'r holl farwolaethau. Erbyn 2035, rhagwelir y bydd tua 24,000 achos newydd o ganser bob blwyddyn ymhlith pobl sy'n byw yng Nghymru, cynnydd o tua 20,000 yn 2019.*
Yr hydref hwn, mae Rachel yn un o nifer o bobl sy'n byw gydag effeithiau hirdymor canser ac sy'n cefnogi ymgyrch Dangosa dy Streips Ymchwil Canser Cymru, gan annog pobl i ddawnsio, symud, a chael hwyl wrth godi arian ar gyfer gwaith hanfodol y sefydliad.
Dydd Mercher, 24 Medi, yw Diwrnod Ymchwil Canser y Byd, cyfle i bawb wisgo topiau streipiog, sanau streipiog, trowsus streipiog, neu unrhyw steil maen nhw'n ei hoffi, tynnu llun o foment llawn hwyl a rhannu llun neu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DangosaDyStreips a thagio @CancerResearchWales.
Mae seren TikTok Cymru, Lewis Leigh, wedi creu dawns unigryw sy’n annog unrhyw un i ddawnsio a’i rannu ar eu Instagram neu TikTok, ac enwebu tri ffrind i wneud yr un peth.
Dywedodd Rachel, sydd bellach yn 40 oed ac yn byw gyda'i gŵr Dean a'i chi Sheldon ym Mhontypridd, ei bod wedi treulio amser hir yn ceisio ymchwiliad i'w salwch cychwynnol.
Ar y dechrau, cafodd driniaeth ar gyfer IBS a chredwyd taw sgil-effaith ei soriasis oedd y symptomau.
“Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un o'r symptomau. Gyda'r blinder a'r poenau yn fy stumog, doeddwn i ddim yn ymwybodol eu bod nhw'n rhybuddion,” meddai Rachel.
“Oherwydd fy mod i'n eithaf heini, roeddwn i'n mynd i'r gym, yn bwyta pum ffrwyth a llysieuyn y dydd, doeddwn i ddim yn yfed, doeddwn i ddim yn ysmygu, roeddwn i'n meddwl bod y risg o gael unrhyw beth tebyg i ganser yn eithaf isel.
Doedd e ddim hyd yn oed wedi croesi fy meddwl, felly, pan ddywedon nhw wrtha i cefais i sioc llwyr.”
Dywedodd Rachel ei bod hi'n awyddus i rannu ei stori i helpu i gefnogi Ymchwil Canser Cymru i newid bywydau er gwell, gan ei bod yn ymwybodol bod ei bywyd wedi'i achub diolch i ddatblygiadau mewn triniaethau ac ymyriadau.
“Os y galla i atal un person rhag cael diagnosis hwyr fel y gwnes i, yna, dwi’n hapus. Mae yna lawer o bobl ifanc nad ydyn nhw'n ymwybodol y gall ddigwydd iddyn nhw hyd yn oed os ydyn nhw'n heini, yn iach ac yn ifanc.
Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny o gwbl. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n ddiogel rhag cael canser yn ifanc.”
Dywedodd y seren cyfryngau cymdeithasol, Lewis Leigh ei fod wedi cael ei ysbrydoli i gymryd rhan yn yr ymgyrch Dangosa dy Streips ar ôl colli ei dad-cu i ganser.
Y Diwrnod Ymchwil Canser y Byd hwn, mae'n ymweld ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Pontardawe, i berfformio'r ddawns a greodd gyda disgyblion.
“Ar ôl colli fy Bampi, mae canser wedi effeithio ar fy nheulu mewn ffordd mor bersonol, felly mae cefnogi Ymchwil Canser Cymru yn golygu llawer i fi,” meddai Lewis.
“Roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r ymgyrch Dangosa dy Streips oherwydd ei bod yn ymwneud â dod â phobl ynghyd ar draws Cymru mewn ffordd bositif, wrth godi ymwybyddiaeth ac arian a fydd yn helpu pobl go iawn fan hyn.
“Dwi wedi gweld dawns fel ffordd o gysylltu â phobl erioed, ac yn gobeithio y bydd y ddawns hon yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan, cael hwyl, a chefnogi ymchwil hanfodol a allai achub bywydau un diwrnod.”
Dywedodd Mr Lee Hitchings, pennaeth Ysgol Gymunedol Cwmtawe: "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o achos mor werth chweil ac mae ein disgyblion yn gyffrous iawn i fynd ati a dangos eu sgiliau.
“Mae Ymchwil Canser Cymru yn parhau i ariannu ymchwil arloesol ac maent yn eiriolwyr rhagorol dros bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ganser."
Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: “Hoffwn ddiolch i Rachel am ei chefnogaeth i Ymchwil Canser Cymru a’n hymgyrch Dangosa dy Streips.
“Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn ariannu ymchwil sy’n dod â gobaith heddiw ac yn trawsnewid bywydau yfory – ond ni allwn wneud hyn heb gefnogaeth pobl Cymru.
“Ymunwch â Dangosa dy Streips ar 24 Medi – mae’n ddiwrnod i uno yn erbyn canser trwy wisgo streipiau, cael hwyl a chodi arian ar gyfer ymchwil canser yma yng Nghymru.
“Ers lansio dair blynedd yn ôl, mae Dangosa dy Streips wedi dod â miloedd o bobl o bob cwr o Gymru ynghyd – pob un wedi’i uno gyda’r un nod cadarn gwych: trechu canser.”