John y gwirfoddolwr yn ysgrifennu soned ar gyfer siop Cas-gwent Ymchwil Canser Cymru
Mae siop Cas-gwent Ymchwil Canser Cymru wedi derbyn rhodd arbennig iawn gan wirfoddolwr sydd wedi bod yn helpu yno ar ôl profiad gyda chanser.

Mae John Bray o Gwndy wedi ysgrifennu soned ar gyfer y siop yn 21 Stryd Fawr lle mae wedi bod yn gwirfoddoli am y tri mis diwethaf.
Cafodd John, sydd wedi hanner ymddeol, ei ysbrydoli i ysgrifennu'r gerdd, o'r enw 'Ein siop – brwydro yn erbyn canser', gan ei brofiad o wirfoddoli gydag Ymchwil Canser Cymru.
"Mae gwirfoddoli yn rhywbeth rwyf am ei wneud ar gyfer fy hun a phobl eraill. Rwyf am gyfrannu i ddiolch am y driniaeth feddygol yr wyf wedi ei dderbyn sydd wedi achub fy mywyd. Bydd hyn yn gwneud i mi deimlo'n well ar lefel bersonol, ac hefyd yn helpu gyda datblygiadau ymchwil yn y dyfodol a fydd yn buddio eraill", meddai John.
“Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yn y siop yng Nghas-gwent ar foreau dydd Llun a dydd Gwener am tua thri mis bellach. Nid wyf yn siŵr a yw oherwydd ein bod nifer ohonom sy'n gweithio yno wedi cael ein heffeithio gan ganser, ond mae'n le hyfryd i weithio ynddo. Roedd cyflwynno y soned wedi'i fframio yn brofiad positif iawn a mae wedi gwneud i mi synfyfyrio amdani yn cael ei harddangos yn y siop.”
Dywedodd Dina Aicardi-Lewis, sy'n rhedeg siop Cas-gwent Ymchwil Canser Cymru: "Mae John yn wirioneddol boblogaidd yma yn ein siop ac rydym i gyd yn hynod ddiolchgar am ei garedigrwydd wrth ysgrifennu y soned. Mae’r soned nawr yn cymryd lle balch yn y ffenest siop fel y gall pawb ei gweld."
'Ein siop – brwydro yn erbyn canser', gan John Bray
Siop o liw, yn chwarae llawer o rolau,
Yn ymladd drygioni anheg canser
Hel arian ar gyfer ymchwil yw y nod,
Lle o dawelwch yn erbyn llwybr canser,
Siop hardd yno i bawb ei gweld,
Eitemau o ansawdd wedi'u harddangos gyda gofal
Oasis o heddwch sydd yno am ddim,
Yn gwahodd siopwyr i brynu a rhannu,
Ar gyfer y rhai a gafodd niwed gan jôc greulon canser,
Mae hwn yn le diogel i wirfoddoli a thrwsio,
Yn ymgysylltu â chefnogwyr, porwyr a gwestai,
Lle elusennol i ni ofalu drosto,
Gadewch i ni drechu canser cyn i bopeth arall fethu,
Diolch am eich cymorth,
Ymchwil Canser Cymru.