Mae Dangosa dy Streips yn ôl ac yn fwy nag erioed
Rydym yn lansio ein Dangosa dy Streips mwyaf erioed, gyda chymorth seren TikTok Lewis Leigh
Cofrestrwch ar gyfer Dangosa dy Streips 2025
Dangosa dy streips. Posia dros ymchwil. Newidia fywydau.
Cofrestrwch yma
Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd (24 Medi 2025), a helpwch i wneud diwrnod Dangosa dy Streips eleni y mwyaf erioed! Mae seren TikTok Cymru, Lewis Leigh, wedi creu dawns newydd hwyliog a symudiadau Dangosa dy Streips arbennig i helpu pawb i gymryd rhan.
Pam ei fod yn bwysig
Yng Nghymru, bydd 1 o bob 2 ohonom yn cael canser. Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn ariannu ymchwil sy'n dod â gobaith heddiw ac yn trawsnewid bywydau yfory - ond ni allwn wneud hyn hebddot ti. Mae Diwrnod Ymchwil Canser y Byd yn tynnu sylw at rôl hanfodol ymchwil yn y frwydr fyd-eang yn erbyn canser.
O ddiagnosisau cyflymach i driniaethau mwy effeithiol, mae ymchwil yn achub bywydau. Tynna sylw at bŵer ymchwil canser yng Nghymru – Dangosa dy Streips a chyfranna i sbarduno darganfyddiadau sy'n newid bywydau.
Mae pob punt a godir yn helpu gwyddonwyr a chlinigwyr o'r radd flaenaf - o Gaernarfon i Gaerdydd, Ynys Môn i Aberystwyth - i sicrhau datblygiadau sy'n newid bywydau.