Symud at y prif gynnwys

Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod: Medi 2025

Mae mis Medi yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod, sy’n gyfle pwysig i dynnu sylw at y plant a’u teuluoedd sy’n gorfod wynebu’r gofid yn sgil diagnosis o ganser

Realiti Canser Plentyndod

Mae canser fel arfer yn cael ei ystyried yn glefyd pobl hŷn - yn wir, mae mwyafrif yr achosion canser yng Nghymru yn digwydd mewn pobl 65 oed ac yn hŷn. Mae achosion o ganser mewn plant a phobl ifanc yn brin, diolch byth, ond maent yn parhau i gael effaith lethol ar yr unigolion a’u teuluoedd.

Yn ffodus, mae cyfraddau goroesi ar gyfer canserau plant yn tueddu i fod yn uchel, a’r data diweddaraf yn dangos bod tua 84% o blant yn goroesi o leiaf 5 mlynedd ar ôl eu diagnosis. Yn unol â hynny, mae plant yn cyfrif am 0.3% yn unig o farwolaethau canser yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni waeth pa mor galonogol yw’r niferoedd, mae llawer o deuluoedd yn wynebu torcalon colli plentyn i ganser o hyd. Mae angen gwneud mwy o hyd i atal bywydau ifanc rhag cael eu torri’n fyr.

Astudiaeth Newydd ar Diwmorau’r Ymennydd

Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o fod yn ariannu astudiaeth newydd ar diwmorau’r ymennydd mewn plant, a’i nod yn y tymor hir yw gwella ein dealltwriaeth a chaniatáu gofal mwy cywir a phersonoledig. 

Mae tiwmorau’r ymennydd yn cyfrif am fwy na chwarter canserau plentyndod ac yn un o brif achosion marwolaethau o ganser mewn plant, gan felly gynrychioli maes allweddol ar gyfer ymchwil.

Ar hyn o bryd, mae llawer o blant sy’n cael diagnosis â math o diwmor yr ymennydd o’r enw glioma gradd isel (LGG) yn gallu cael eu trin yn llwyddiannus â llawdriniaeth i dynnu eu tiwmor.

Fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o gleifion yn ailwaelu, lle mae’r tiwmor yn dod yn ôl ac yn gallu achosi problemau gwanychol, yn cynnwys nam ar y golwg, problemau â’r hormonau ac epilepsi. Yn aml, ni all profion presennol adnabod pa gleifion fydd yn dioddef ailwaelu a pha rai fydd yn ‘gwella’, felly mae angen gwirioneddol am brofion gwell.

Technoleg Delweddu Manwl

Yn y prosiect a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru, dan arweiniad Dr Madeleine Adams o Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, bydd sganiwr MRI o’r radd flaenaf yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu delweddau o LGG yn fanylach nag a fu’n bosibl o’r blaen. 

Mae’r sganiwr yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn un o blith nifer fach yn unig o sganwyr yn y byd, ac yn gallu cynhyrchu datrysiad digynsail.

Y gobaith yw y bydd y delweddau hynod fanwl hyn yn galluogi clinigwyr i wahaniaethu pa gleifion sy’n debygol o ailwaelu, er mwyn gallu teilwra’u triniaeth a’u triniaeth ddilynol yn unol â hynny.

I’r cleifion hynny sy’n annhebygol o ailwaelu, byddai hyn yn golygu osgoi sganiau diangen a sgil effeithiau posibl y rhain, tra bod y rheiny sy’n debygol o ailwaelu yn gallu cael eu monitro’n agosach i ganiatáu ymyrraeth cyn gynted â phosibl.

Yn yr astudiaeth hon, bydd y tîm yn asesu dichonoldeb ac ymarferoldeb cynnal y sganiau MRI manwl hyn ar blant â LGG. Os gwelir bod hyn yn opsiwn diogel a realistig, bydd astudiaeth fwy yn cael ei chynnal wedyn i bennu pa mor gywir yw’r fethodoleg hon ar gyfer rhagweld achosion o ailwaelu.

Pwysigrwydd Ymchwil

Mae ymchwil wedi helpu creu effaith gadarnhaol ar gyfer llawer o fathau o ganser, ac nid yw canserau plant yn wahanol. Mae mwy o blant nag erioed yn goroesi canser ac yn mynd ymlaen i fyw bywydau llawn a hapus, diolch i ddatblygiadau mewn triniaeth a gofal dros y degawdau diwethaf. 

Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd, a bydd Ymchwil Canser Cymru yn parhau i gefnogi ymchwil o ansawdd uchel i gyflawni mwy o welliannau ar gyfer cleifion ifanc.

Mae prosiectau ymchwil fel un Dr Adams, sy’n manteisio ar y dechnoleg flaengar yn CUBRIC, yn amlygu pa mor gyffrous ac arloesol y gall ymchwil canser yng Nghymru fod gyda’r gefnogaeth gywir. Trwy ariannu a meithrin yr ymchwil orau ledled Cymru, gallwn greu effaith wirioneddol ar gyfer cleifion canser yfory, ni waeth beth yw eu hoedran.

Dr Madeleine Adams

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

“Bydd y sganiwr MRI manwl sy’n cael ei ddefnyddio yn y prosiect hwn yn edrych ar strwythur y tiwmor yn fanylach na sganiau arferol. Y nod yn y pen draw, yn y dyfodol, yw y bydd mwy o diwmorau’r ymennydd yn gallu cael eu gwella a bod ansawdd bywyd hirdymor yn cael ei wella.”