Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint: pam fy mod i wedi rhoi'r gorau i ysmygu
Canser yr ysgyfaint yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Dyma'r achos mwyaf o farwolaeth o ganser yng Nghymru, o bell ffordd
Fi yw Iwan ac fi yw Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru ac roeddwn i'n ysmygu 20 sigarét y dydd am tua 18 mlynedd, ond 17 mlynedd yn ôl, fe stopiais i.
Dwi’n falch iawn fy mod i wedi rhoi'r gorau i ysmygu a dwi ddim yn ysgrifennu’r darn hwn er mwyn dweud wrth unrhyw un beth i'w wneud neu beidio â gwneud, ond mae'r dystiolaeth yn amlygu’n glir nad yw ysmygu’n dda i chi.
Mae nicotin yn gaethiwus
Mae'n anodd iawn rhoi'r gorau i ysmygu - mae'n gaethiwed ac mae nicotin ymhlith un o'r sylweddau mwyaf caethiwus sy'n hysbys i ddynol ryw.
Rhoddais i’r gorau i ysmygu ym mis Chwefror 2009 pan aned ein mab hynaf – Guto, ac fe stopiais i oherwydd doeddwn i eisiau iddo ddod yn ysmygwr, hefyd.
Doeddwn i ddim eisiau iddo dyfu i fyny gydag ysmygu yn rhywbeth wedi’i normaleiddio yn ein cartref ni ac roeddwn i'n teimlo y gallai fod wedi ei annog i ddechrau’r arfer.
Dwi’n credu mai normaleiddio ysmygu pan oeddwn i'n tyfu i fyny yw'r rheswm pam y dechreuais i ysmygu – fy mhenderfyniad i oedd ysmygu, a dwi’n cymryd cyfrifoldeb llawn am hynny, ond pan ges i fy magu yn y 1970au a'r 1980au, roedd pawb yn ysmygu.
Roedd fy nhaid, fy nhad, fy ewythrod ar ddwy ochr y teulu yn ysmygu, fel y cenedlaethau blaenorol ar ôl y rhyfel ar ddwy ochr fy nheulu o'u blaen nhw.
Hysbysebu tybaco
Roedd hysbysebu sigaréts a thybaco ym mhobman pan oeddwn i'n tyfu i fyny – o JPS a Marlboro ar geir Fformiwla 1, i hysbysebion sigâr Hamlet ar y teledu ac ar flaenau siopau lle byddech chi'n gweld hysbysebion ar gyfer Silk Cut a Benson & Hedges.
Ni allech ddianc rhag tybaco a hysbysebion tybaco.
Roeddwn i'n asthmatig ac yn casáu ysmygu gydag angerdd – roedd yr arogl yn gwneud i mi deimlo'n sâl ac roedd y mwg yn ei gwneud hi'n anodd i mi anadlu.
Roedd yn annioddefol ond roedd yn rhywbeth y bu'n rhaid i mi ei oddef, ac fe wnes i.
Blynyddoedd fy arddegau
Felly, ymlaen at fy arddegau pan ddaeth cerddoriaeth a gitarau yn rhan gynyddol bwysig o fy mywyd.
Roeddwn i'n dal i gasáu ysmygu, ond roeddwn i'n dechrau gwrando ar fandiau fel Van Halen, ac roedd eu harwr gitâr arloesol (a oedd yn well na Jimi Hendix, yn fy marn i), Eddie Van Halen, yn ddylanwad mawr arna’ i.
Fe brynais i holl albymau ei fand a chael fy swydd gyntaf yn 15 oed i gynilo i brynu gitâr Kramer, yr oedd Eddie yn ei chwarae.
Yna, daeth Guns N' Roses i'r amlwg ym 1987 gyda'u halbwm cyntaf anhygoel, Appetite for Destruction, a daeth eu prif chwaraewr gitâr – Slash - yn un o’m harwyr.
Mewn ffotograffau o Eddie Van Halen a Slash, roeddent bob amser yn ysmygu neu roedd ganddynt becyn o sigaréts mewn man amlwg yn rhywle yn y llun.
Fel arfer, byddai gan Eddie sigarét wedi'i wasgu ym mhen uchaf ei gitâr a byddai un yn debygol o fod yn hongian allan o gornel ceg Slash.
Roedd yn hawdd iawn gwneud argraff arna’ i – fel llawer o bobl ifanc yn eu harddegau - ond dwi'n credu y gall eich modelau rôl gael dylanwad cryf iawn ar y penderfyniadau rydych chi'n eu gwneud mewn bywyd.
Wrth reswm, dwi bellach yn gwybod mai'r ffordd i fod yn dda ac yn well am chwarae’r gitâr yw ymarfer – nid yw yn dod o chwarae'r un brand o gitâr â'ch arwyr, neu yn wir ysmygu sigaréts fel nhw.
‘Patches’, gwm nicotin a mewnanadlwyr
Roeddwn i’n ysmygu Marlboro coch cryfder llawn ac wedyn newid i Marlboro aur – yr oedd pawb ar y pryd yn meddwl eu bod nhw’n ‘well i chi' oherwydd bod ganddyn nhw lai o dar a nicotin ynddyn nhw.
Mae'n ymddangos bod sigaréts 'hanner cryfder' yr un mor ddrwg i'ch iechyd â'r rhai 'cryfder llawn'.
Roeddwn i bob amser yn gwybod ei fod yn ddrwg i mi – yn enwedig fel rhywun a oedd wedi bod yn blentyn asthmatig, ac fe wnes i geisio stopio, ond heb lwyddo – ‘patches’, gwm nicotin a’r mewnanadlwyr plastig hynny a oedd yn rhoi hwb o nicotin i chi, ond doedd dim un ohonynt yn gweithio.
Torri'r cylch
Fel y soniais i’n gynharach, genedigaeth ein mab hynaf – Guto, yn 2009 a wnaeth hynny i mi.
Ar ôl 18 mlynedd o ysmygu 20 y dydd, gwnaeth ei enedigaeth wneud i mi edrych ar fy ymddygiad fy hun a gwneud i mi sylweddoli fy mod i eisiau bod yno iddo pan oedd wedi tyfu i fyny a thorri'r cylch hwnnw o ysmygu 'wedi’i normaleiddio' fel na fyddwn yn dylanwadu arno i ddechrau ysmygu ei hun.
Mae’n siwr mai dyna un o'r profiadau mwyaf pwerus dwi wedi'i gael erioed yn fy mywyd, ac 17 mlynedd yn ddiweddarach, fe alla’ i ddweud ei fod yn un o'r pethau gorau dwi wedi'i wneud erioed.
Buddion corfforol ac ariannol
Yn ogystal â'r buddion i iechyd, mae peidio ag ysmygu wedi arbed ffortiwn i mi – o ran prisiau yn 2009, roedd y brand roeddwn i'n ei ysmygu yn £5.30 am becyn o 20, a fyddai'n costio tua £1,900 y flwyddyn bryd hynny, felly dyna o leiaf £34,000 dwi wedi'i 'arbed'.
Os cymharwch chi hynny â phrisiau 2025, mae pecyn o 20 o'r sigaréts roeddwn i'n eu hysmygu yn costio tua £16.75, felly pe bawn i'n dal i ysmygu bob dydd - byddai'n costio dros £6,000 y flwyddyn i mi.
Dwi’n teimlo'n llawer gwell ar ôl rhoi'r gorau i ysmygu, ond rwy'n gobeithio nad ydw i wedi achosi unrhyw niwed hirdymor neu anadferadwy i mi fy hun.
Dwi ddim yn gallu chwarae’r gitâr fel Eddie Van Halen neu Slash o hyd, ond o leiaf nawr dwi ddim yn drewi o hen fwg tybaco ac nid yw ein tŷ na'm car, chwaith.
Hefyd, dwi ddim yn peswch bob bore, a dwi wedi torri'r cylch hwnnw o ysmygu 'wedi’i normaleiddio' a gobeithio y bydd hynny'n golygu y bydd fy mhlant yn gwneud dewisiadau iachach o fyw iddyn nhw eu hunain wrth iddynt dyfu i fyny.