Symud at y prif gynnwys

Miss World a Mari Grug oedd gwesteion arbennig yn ein cinio gala

Digwyddiad codi arian yn codi yn agos i £2,500

Miss World – Opal Suchata Chuangsri, a’r sêren deledu a radio a llysgenad Ymchwil Canser Cymru Mari Grug oedd y westeion arbennig yn ein cinio gala codi arian ar 25 Hydref.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Miss UK - Millie-Mae Adams o Gaerdydd, sydd hefyd yn lysgennad Ymchwil Canser Cymru, am drefnu’r digwyddiad a gododd yn agos i £2,500.

Roedd Opal wedi hedfan yn arbennig i’r digwyddiad o Bangkok ac roedd Mari yn siarad yn gyhoeddus y noson cyn darlledu dogfen S4C am ei thaith ganser o’r enw ‘Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro.

Anrhydedd i gael siarad yn y gala

Mae Opal yn ymgyrchydd yn erbyn canser y fron ac mi ddarganfyddod lwmp ar ei bron pan roedd yn 16 mlwydd oed.

Yn ystod ei haraith fe ddiolchodd i Ymchwil Canser Cymru ac fe ddywedodd ei bod yn anrhydedd i gael siarad yn y cinio gala.

“Mae canser y fron yn rhywbeth yn hynod agos at fy nghalon. Yn 16 mlwydd oed mi ddarganfyddais lwmp ar ochr fy mron. Yn lwcus, nid canser oedd y lwmp, ond fe wnaeth gymryd ei drael ar fywyd merch 16 mlwydd oed, felly mae heno yn rhywbeth yn arbennig iawn nid yn unig i chi i gyd, ond i mi hefyd” meddai Opal.

Defosiwn, gwaith caled a brwdfrydedd

Siaradodd Opal am ei hymweliad diwethaf â Chymru pan ymwelodd â labordy a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru yng Nghaerdydd a'r argraff barhaus a adawodd arni.

"Ar fy nhaith ddiwethaf i Gymru, cefais ymweld â Ymchwil Canser Cymru gyda fy ffrindiau hyfryd Millie-Mae a Helena. Gwelais nid yn unig welliannau mewn gwyddoniaeth, meddygaeth a thechnoleg, ond yn bwysicach na hynny, gwelais y defosiwn, y gwaith caled a'r brwdfrydedd y mae'r ymchwilwyr yn ei roi yn eu gwaith er mwyn creu bywyd gwell i gleifion canser y fron a chanserau eraill", meddai Opal.

Ocsiwn codi arian a sioe ffasiwn

Roedd Miss Cymru Helena Hawke o Gaerllion a’r cyn athletwr a chyflwynydd teledu, Jamie Baulch – sydd hefyd yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru, ymysg y gwesteion ar y noson.

Cynhaliodd Jamie ocsiwn codi arian a bu sioe ffasiwn yn dangos dillad nos o siopau Ymchwil Canser Cymru ac o Jayne’s Boutique ar Heol Eversley, Abertawe, a gafodd eu modelu'n garedig gan y goroeswyr canser Rachel Reed, Sacha Stoyle a Leanne Jones.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd i wneud y gala a gynhaliwyd yng ngwesty mawreddog Holland House ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd yn llwyddiant ysgubol.