Symud at y prif gynnwys

Pam rwy'n rhedeg ar gyfer Ymchwil Canser Cymru: Stori Clay

Mae Clay Gibbons wedi penderfynu i helpu ei iechyd meddyliol a chorfforol trwy hyfforddi ar gyfer Marathon Hanner Caerdydd i gefnogi Ymchwil Canser Cymru ar ôl anaf difrifol

Darllenwch isod a chefnogwch ef ar ei daith

Cefnogwch daith codi arian Clay yma

Tudalen Codi Arian Clay

Soniwch wrthym am eich anaf

Yn Medi 2024, dioddefais anaf difrifol y fy nghefn wrth chwarae rygbi a roedd bron angen llawdriniaeth frys arnof, ond diolch byth nad oedd ei angen arnaf. Ond dywedodd y meddygon na fyddwn byth yn chwarae rygbi eto, a'r foment a glywais hynny, fe agorodd y llawr o fy mlaen. Nid oeddwn yn gallu hyfforddi, mynd i'r gampfa, nac yn rhedeg am weddill y flwyddyn oherwydd y boen. Roedd y straen yn arurthrol, a bu'r pwysau'n codi. Erbyn Rhagfyr 2024, oeddwn yn 27 a hanner stôn.

Beth ddigwyddodd nesaf?

Ar Nos Galan 2024, penderfynais fod angen gwirdroi pethau a newid fy mywyd. Ac ar y foment hwnnw, meddyliais – "Pam dwi’n teimlo'n drist amdanaf fy hun? Mae miloedd o bobl yno'n ymladd heriau llawer mwy na finnau."

Sut ddechraist ti dy daith redeg?

Ar 1 Ionawr, codais a dechreuais gerdded, gan nad oeddwn i'n gallu rhedeg o hyd, a dechreuais fwyta deiet well. Yn raddol, dechreuais golli pwysau, magu hyder, a dechreuais redeg eto erbyn Chwefror - dim ond 1km ar y cychwyn. Dyna pryd y penderfynais gofrestru ar gyfer Marathon Hanner Caerdydd, er mwyn profi fy hun yn iawn a dangos i'r rheini a oedd yn fy amau, beth oeddwn yn gallu ei wneud.

Pam mae rhedeg ar gyfer Ymchwil Canser Cymru mor bwysig i ti?

Ro'n i hefyd eisiau ei wneud ar gyfer elusen sy'n cefnogi pobl sy'n dioddef'n waeth na fi, felly dewisais Ymchwil Canser Cymru, gan i mi golli aelodau'r teulu i'r afiechyd ofnadwy hwn yn y blynyddoedd diwethaf.

Sut wyt ti'n teimlo am beth yr wyt ti wedi ei gyflawnni?

O fewn wyth mis, rwyf wedi colli 8½ stôn! Rwyf yn iachach nac erioed, wedi rasio mewn dau ras 10K (Ynys y Bari a Chas-gwent) a rwyf am rannu fy stori i ysgogi eraill gyda agwedd 'mae popeth yn bosib' - ac i godi ymwybyddiaeth am elusen gwych, fydda i'n gwneud llawer mwy o waith ar ei chyfer yn y dyfodol.