Symud at y prif gynnwys

Sgrinio canser y fron mewn menywod dan 50 - pam y gall yr anfanteision drechu’r manteision

Bob mis Hydref rydym yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron - amser i godi ymwybyddiaeth am un o'r canserau mwyaf cyffredin a ddiagnosisir bob blwyddyn yng Nghymru a'r effaith sydd ganddo ar deuluoedd

Mae hefyd yn gyfle i atgyfnerthu'r neges am bwysigrwydd sgrinio'r fron, yr angen am gefnogaeth barhaus i fenywod sy'n mynd drwy'r broses o drin canser y fron, ac i dynnu sylw at yr angen am ymchwil barhaus, yn enwedig ar gyfer is-fathau mwy heriol o ganser y fron.

Mewn sawl ffordd, mae triniaeth a gofal canser y fron wedi bod yn stori lwyddiant, gyda mwy na 90% o fenywod bellach yn goroesi eu canser am 5 mlynedd neu fwy. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gadael unrhyw le am esgeulustod gan fod tua 11,000 o bobl yn dal i farw bob blwyddyn o ganser yn y DU gyda bron i 600 o'r rhain yng Nghymru.

Un o'r llwyddiannau mwyaf tu ôl i'r gwelliannau mewn canlyniadau canser y fron oedd cyflwyno sgrinio canser y fron sydd yn dechrau ar 50 oed. Yng Nghymru, mae tystiolaeth yn dangos bod sgrinio rheolaidd canser y fron yn gallu lleihau marwolaeth o tua 25%.

Un cwestiwn y’i gofynnir yn aml i ni yn Ymchwil Canser Cymru yw pam na ellir dechrau sgrinio canser y fron cyn 50 oed?

Sgrinio canser y fron mewn menywod o dan 50: manteision yn erbyn niwed

Mae canser y fron mewn menywod o dan 50 yn eithaf anghyffredin yn ffodus, er nad yw'n anghyffredin iawn. Yn gyffredinol, ledled y DU mae canser y fron mewn menywod o dan 50 yn cyfrif am tua 15-20% o'r holl achosion, er y gall y ffigur gwirioneddol amrywio o ranbarth i ranbarth.

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru o 2019 yn dangos bod tua 14% o'r 2,790 o fenywod a ganfuwyd â chanser y fron y flwyddyn honno wedi digwydd mewn menywod o dan 50 oed.

Rhaid i bob rhaglen sgrinio genedlaethol bwyso a mesur y buddion y gall ei rhoi yn erbyn y niwed y gallai ei achosi. Mae profion sgrinio canser y fron yn defnyddio ychydig bach iawn o ymbelydredd.

Gan fod sgrinio canser y fron yn digwydd rhwng oedran 50 a 70, gyda menywod yn cael eu galw bob 3 blynedd, mae'r risg y gall yr ymbelydredd hwn achosi unrhyw niwed yn isel iawn. Felly, pan gaiff ei gynnal rhwng oedran 50 a 70, mae manteision sgrinio canser y fron yn fwy na unrhyw niwed posibl.

Mae sganiau mammogram mewn menywod iau yn tueddu i fod yn fwy anodd i’w dehongli gan fod dwysedd y meinwe fron yn tueddu i fod yn fwy nag mewn menywod hŷn o’r oedran sgrinio fron cyffredin.

Gall hyn arwain at yr angen i ailadrodd sganiau ac am ymchwiliadau ychwanegol eraill diangen er mwyn bod yn sicr. Hefyd, nid oes tystiolaeth gref i ddangos y byddai sgrinio canser y fron mewn pobl o dan 50 yn atal marwolaethau pellach o gamser y fron, er bod hyn yn faes o ymchwil barhaus.

Sgrinio canser y fron wedi’i dargedu at ferched o dan 50

Mae'n bwysig pwysleisio bod sgrinio canser y fron ar gael i rai merched dan 50 oed, yn enwedig os oes gan y teulu hanes o ganser y fron neu os y gwyddont eu bod wedi etifeddu gwall geneteg sy'n gallu cynyddu'r risg o ganser y fron ymddangos ar oedran iau.

Mewn merched sydd â hanes teuluol o ganser y fron, mae gan sginio a phrofiau genetig rôl bwysig i'w chwarae. Dylai merched sydd yn teimlo y byddai profion genetig yn fuddiol iddynt, yn seiliedig ar hanes teulu, fynd at eu meddyg teulu yn gyntaf ac yn trafod unrhyw bryderon y gallent eu cael.

Bydd meddygon teulu yn gyfarwydd â'r holl wasanaethau genetig sydd ar gael, a gallant ysgrifennu llythyr cyfeirio ar gyfer dilyn ymchwiliadau pellach.

Ar ôl profion genetig a chynghori, gellir trefnu apwyntiad gyda Bron Brawf Cymru ar gyfer sgrinio y fron mewn merched dan 50 oed, os câi hynny ei ystyried yn fuddiol i'r unigolyn hwnnw. Fodd bynnag, rhaid i'r broses gyfan ddechrau gydag apwyntiad gyda meddyg teulu.

Yr angen am ymchwil parhaus i ganser yr fron

Mae ymchwil barhaus yn hynod bwysig os ydym am gadw un cam o flaen canser. Ymchwil yw'r llwyfan y mae pob sefydliad iechyd byw yn parhau i wella canlyniadau eu cleifion. Yn gyffredinol, mae profi genetig ar gyfer risg canser y fron yn cynnwys profi am nifer o enynnau risg sydd wedi'u hadnabod fel BRCA1, BRCA2 a TP53.

Mae bod ymchwil yn canfod yn barhaus enynnau risg ychwanegol a allai gael eu cynnwys yn y pen draw mewn profi genetig arferol os dangosir bod tystiolaeth gryf o fanteision.

Mae canser y fron driphlyg-negyddol (TNBC) yn gyfrifol am tua 15% o'r holl ganser y fron yn cynrychioli canser gyda hangen glinigol heb ei guro.

Mae TNBC yn effeithio'n anghymesur ar fenywod ifanc, yn tueddu i fod yn fwy ymosodol ac mae'n fwy tebygol o ledaenu i organau pell, ac mae ganddo lai o opsiynau triniaeth ar gael na mathau eraill o ganser y fron sy'n ddibynnol ar hormonau sydd yn fwy cyffredin.

Yn ddiweddar, mae Ymchwil Canser Cymru wedi ariannu prosiectau lle mae gwyddonwyr yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ymchwilio i ffurfiau newydd o driniaeth ar gyfer TNBC ac yn edrych ar ddulliau i gynyddu pŵer y strategaethau radiotherapi presennol a ddefnyddir i drin y clefyd.

Mae Ymchwil Canser Cymru, rydym yn credu y bydd canolbwyntio ar ymchwil i drin is-fathau o ganser y fron sydd ag anghenion clinigol heb eu bodloni a'r mathau sy'n effeithio'n anghymesur ar ferched ifanc, yn helpu i wella canlyniadau ar gyfer pob merch.

Dylai oedran ddim fod yn rhwystr i godi pryderon

Er bod canser y fron yn anghyffredin mewn menywod, mae'n digwydd, ac unrhyw symptomau sy'n awgrymu canser y fron dylid eu hastudio, waeth beth yw oedran. 

Ni ddylai oedran menyw fod yn sail i eithrio'r posibilrwydd o ganser y fron hyd yn oed os bydd y symptomau'n digwydd mewn menywod o dan 50 oed. Mae'n well eithrio canser y fron yn hytrach na rhedeg y risg o adael pethau'n rhy hwyr, pan fydd y cyflwr yn llawer anoddach i'w drin yn llwyddiannus.

Mae'r blog hwn i ddibenion gwybodaeth yn unig ac ni ddylid ei ystyried yn gyngor meddygol. Os oes gan unrhyw un bryderon am ganser y fron, dylent siarad yn gyntaf â'u meddyg teulu neu ddarparwr gofal iechyd tebyg a fydd yn falch o helpu pryd bynnag y bo'n angenrheidiol.