Tirwedd sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru
Bob mis Tachwedd mae'r DU, yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi cefnogaeth am driniaethau gwell a mwy o ymchwil ar gyfer y clefyd dinistriol hw
Prif achos marwolaethau canser
Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru ond mae'n parhau i fod yn brif achos marwolaeth o ganser, gyda thua 1,800 o farwolaethau bob blwyddyn.
Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o achosion yn cael eu diagnosio ar gam hwyr pan fo'r cyflwr yn anodd ei drin a lle mae iachâd yn annhebygol.
Er bod gennym raglenni sgrinio cenedlaethol ar gyfer dau o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, sef canser y coluddion a chanser y fron, gyda'r nod o'u canfod yn gynharach, mae diffyg rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint, hyd yn hyn.
Mae’r defnydd traddodiadol o belydrau X ar y frest - y dull confensiynol o ganfod tiwmorau yn yr ysgyfaint, yn aml yn annibynadwy ar gyfer darganfod tiwmorau yn eu dyddiau cynnar a rhai sydd yn tyfu'n gyflym mewn pobl nad oes ganddynt unrhyw symptomau.
Sganiau CT a lefelau isel o ymbelydredd
Dros y degawd diwethaf, fodd bynnag, mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos bod sgrinio canser yr ysgyfaint gan ddefnyddio sganiau CT gyda lefelau isel o ymbelydredd, mewn ysmygwyr a chyn ysmywgwyr rhwng 55 a 74 mlwydd oed, yn gallu arwain at newid sylweddol ar ba gam o ganser sydd yn cael ei ddiagnosio.
Yn yr astudiaethau hyn, canfuwyd y rhan fwyaf o diwmorau ar Gamau 1 a 2, sef cyfnodau pan fydd canser y ysgyfaint yn haws i’w drin, o’i gymharu â diagnosis ar Gamau 3 a 4 sy’n nodweddiadol mewn cleifion sydd ond yn cael profion ar ôl i symptomau ymddangos.
Cynnydd araf yng Nghymru
Mae Ymchwil Canser Cymru a elusennau cysylltiedig sy'n ffurfio Cynghrair Canser Cymru wedi bod yn rhybuddio ers cryn amser bod y cynnydd yng Nghymru wedi bod yn araf o'i gymharu â Lloegr.
Ar Ddiwrnod Canser y Ysgyfaint y Byd 2023, pwysleisiodd Cynghrair Canser Cymru mewn llythyr agored, tra bod Lloegr eisoes wedi dechrau rhoi Archwiliadau Ysgyfaint Targedig ar waith ar ôl beilotiaid llwyddiannus, nid oedd un unigolyn yng Nghymru wedi elwa eto o sgrinio canser ysgyfaint.
Yn 2022 argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU y dylai'r pedair gwlad i gyd gyflwynno sgrinio canser ysgyfaint targedig gyda CT dôs isel ar gyfer grwpiau risg uchel. Fodd bynnag, cyfyngodd Cymru ei hun i astudiaeth beilot ar raddfa fach yn Mwrdd Iechyd Cwm Taf yn hytrach na ymrwymo i raglen genedlaethol lawn.
Rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint cenedlaethol
I syndod arweinyddion yr astudiaeth, darganfuwyd nifer o olion cynnar o ganser yr ysgyfaint yn y 500 sgan cyntaf, sef nifer nad oedd disgwyl iddi fod yn ddigonol i ganfod unrhyw achosion mewn poblogaeth nad oedd ganddynt symptomau.Roedd y canlyniad hwn yn dangos pa mor angenrheidiol yw rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint cenedlaethol.
Er gwaethaf llwyddiant y prosiect peilot, ni chyhoeddwyd penderfyniad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru tan ganol 2025, ac nid oes disgwyl i’r rhaglen gyrraedd cleifion tan 2027.
Bydd optimeiddio pellach yn cymryd sawl blwyddyn. Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi adolygu ei darged goroesi canser yr ysgyfaint pum mlynedd i 35 y cant erbyn 2035.
Bydd cyflawni hyn yn gofyn i bob gwlad yn y DU ddysgu oddi wrth ei gilydd a symud yn yr un cyfeiriad, neu mae perygl amlwg o gynnydd mewn anghydraddoldebau canser.
Er y dylid rhoi clod i Gymru am iddi bellach ymrwymo i raglen sgrinio canser yr ysgyfaint cenedlaethol, er nad yw'r cynnydd wedi bod mor gyflym ag y byddai llawer yn ei hoffi, nid yw'r Alban wedi ymrwymo'n llwyr eto er iddi gynnal astudiaethau peilot, tra mae’n ymddangos bod hyd yn oed llai o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon.
Cyflwyno yn raddol
Bydd cyflwyno sgrinio canser yr ysgyfaint yn raddol yn helpu i sicrhau rhaglen sydd wedi'i optimeiddio lle bo ansawdd pob sgan CT wedi ei reoli’n ofalus ledled Cymru.Mae perygl y gallai rheoli ansawdd ddioddef os caiff adroddiadau diagnostig eu prosesu gan gwmnïau allanol fel ffordd o osgoi pwysau gwaith ychwanegol ar radiograffwyr sydd eisoes dan bwysau.
Fodd bynnag, mi fyddai angen cydbwysedd rhwng y dull gofalus iawn o weithio gyda'r risg o oedi ychwanegol, a fyddai'n golygu na fyddai nifer o bobl mewn grŵp risg uchel yng Nghymru yn cael cynnig sgrinio mewn pryd - byddai hynny yn arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi.
Tlodi ac ysmygu
Mae cysylltiad agos rhwng canser yr ysgyfaint â thlodi ac ysmygu, a gan fod gan Gymru rai o lefelau tlodi uchaf y DU, mae baich canser yr ysgyfaint yn disgyn yn fwyaf trwm ar ei chymunedau tlotaf.
Mae rhaglen sgrinio wedi’i dylunio’n dda gydag unedau symudol, apwyntiadau hyblyg a chymorth integredig i roi’r gorau i ysmygu yn cynnig cyfle prin i leihau anghydraddoldebau presennol.
Bydd Ymchwil Canser Cymru, fel aelod o'r Tasglu Canser Llai Goroesiol, yn parhau i ymgyrchu dros well adnoddau a mwy o ymchwil i ganserau lle mae cyfraddau goroesi yn parhau’n isel.
Credwn hefyd y gall ymchwil a wneir trwy brofion gwaed neu ddadansoddiadau AI o sganiau o bobl sy’n cymryd rhan mewn sgrinio canser yr ysgyfaint wella diagnosis ymhellach, yn enwedig lle nad yw’r sganiau’n dangos darlun clîr.
Os byddai’r ymchwil yma’n llwyddiannus, gallai’r roi Cymru ar flaen y gad wrth sgrinio canser yr ysgyfaint yn hytrach na bod ar ddiwedd y ciw.
Gyda’n cyd-aelodau yng Nghynghrair Canser Cymru, rydym yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru ac ar ffurfiwyr polisi i gyflymu a darparu adnoddau llawn i ddatblygu sgrinio canser yr ysgyfaint ar draws Cymru ac i sicrhau nad yw pobl yn marw yn ddiangen, gan fod yna olau ar ddiwedd twnnel hir iawn yn awr.