Ymchwil Canser Cymru yn rhoi Cymru ar y Map, wrth i Glinigwyr a Gwyddonwyr Canser yr Ymennydd gwrdd yn Llundain
Cyfarfu Cymdeithas Niwro-oncoleg Prydain ym mis Mehefin ar gyfer ei chynhadledd flynyddol, sef prif gyfarfod y DU ynghylch ymchwil i diwmorau’r ymennydd a’u triniaeth. Ariannwyd detholiad o ymchwil yn y gynhadledd trwy ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd
Ymunwch â ni yn y gynhadledd Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd gyntaf erioed yn Stadiwm SWALEC ar ddydd Gwener, 19 Medi 2025
Cofrestrwch am ddim yma
Thema’r gynhadledd eleni, a gynhaliwyd gan Goleg y Brifysgol Llundain a’r Ysbyty Cenedlaethol er Niwroleg a Niwrowyddoniaeth, oedd ‘Biodechnoleg a Dyfodol Niwro-oncoleg’, a chaniataodd i rai o brif wyddonwyr a chlinigwyr tiwmorau’r ymennydd ledled y byd drafod a myfyrio ar rai o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd o fewn meysydd cysylltiedig niwro-oncoleg, bioleg a thechnoleg.
Addasu Hen Gyffuriau’n Therapïau Newydd ar gyfer Tiwmorau’r Ymennydd
Mae gwell dealltwriaeth o fioleg tiwmorau’r ymennydd yn agor drysau i strategaethau therapiwtig newydd ar gyfer y clefyd, y mae rhai ohonynt eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer cyflyrau eraill.
Canolbwyntiodd nifer o areithiau yn y gynhadledd ar addasu cyffuriau sy’n cael eu rhagnodi’n gyffredin – a ddefnyddir fel arfer i reoli colesterol uchel, poen ac epilepsi – yn driniaethau ychwanegol ar gyfer tiwmorau’r ymennydd i’w defnyddio gyda therapïau confensiynol.
Mae astrosytau yn gelloedd arbenigol yr ymennydd sy’n cefnogi strwythur a swyddogaeth niwronau a nhw yw’r prif fath o gell sy’n arwain at diwmorau’r ymennydd.
Yn ddiweddar, daeth yn hysbys bod astrosytau canseraidd yn ffurfio perthnasoedd swyddogaethol astrus a chymhleth â chelloedd anghanseraidd yr ymennydd, fel niwronau.
Rhoddodd y prif siaradwr, yr Athro Shwan, sy’n niwrolawfeddyg yn San Francisco, Unol Daleithiau America, araith ddiddorol tu hwnt lle disgrifiodd sut mae celloedd tiwmor yn treiddio i rwydweithiau niwronaidd yn yr ymennydd, a sut mae’r ardaloedd hyn yn mynd yn or-gynyrfadwy gyda chynnydd mewn gweithgaredd trydanol.
At hynny, mae’n ymddangos bod y cynnydd hwn mewn gweithgaredd trydanol yn gyrru cynnydd a lledaeniad tiwmorau’r ymennydd ymhellach. Gallai gofyniad o’r fath fod yn fan gwan i diwmorau’r ymennydd.
Awgrymodd yr Athro Hervey-Jumper fod y cynnydd mewn gweithgaredd trydanol yn deillio o lif clorid i gelloedd tiwmor yr ymennydd/y cysylltle niwronaidd.
Mae therapïau sy’n rheoleiddio sianeli clorid eisoes yn bodoli, gyda therapïau newydd yn cael eu datblygu, a gallent gynrychioli dull newydd o ran triniaeth.
Mae Gabapentin, sef cyffur cyffredin sy’n cael ei oddef yn dda, yn gweithio trwy reoleiddio sianeli clorid ac awgrymodd yr Athro Hervey-Jumper y gallai hwn gael ei ddefnyddio ar y cyd â thriniaethau eraill i gyfyngu ar dwf tiwmorau’r ymennydd.
Mae treialon clinigol bellach wedi’u sefydlu i ateb yr union gwestiwn hwn.
Mimosa ac Ymchwil Canser Cymru
Cyflwynodd Dr Marco Palombo, o Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, ganlyniadau cyntaf astudiaeth MIMOSA, a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru.
Gan ddefnyddio sganiwr MRI datblygedig yr ymennydd – y mae pedwar ohonynt yn unig yn bodoli yn y byd – sef, CONNECTOM, bydd 40 o gleifion â thiwmorau ymosodol yr ymennydd yn cael sganiau MRI a fydd yn rhoi mwy o fanylion am y tiwmor a’i amgylchedd, cyn ac ar ôl triniaeth, nag a fu’n bosibl o’r blaen.
Bydd hyn yn caniatáu i glinigwyr ddeall a rhagweld yn well sut mae tiwmorau yn ymateb i driniaeth a nodi’n gynt o lawer ba therapïau nad ydynt yn gweithio, gan arbed amser gwerthfawr.
Nid yn unig y bydd yr astudiaeth hon yn caniatáu i wyddonwyr ddeall hynt naturiol tiwmorau’r ymennydd, bydd hefyd yn rhoi cyfle i glinigwyr gynnig triniaethau gwahanol i gleifion, lle bo’u hangen, a mynediad posibl i dreialon clinigol cymwys, lle gall y triniaethau newydd diweddaraf oll a ddatblygwyd gan ymchwil gael eu cynnig iddynt.Fel y dywedodd Dr Palombo wrth ystafell orlawn, gyda chynulleidfa fyd-eang, mae’r ymchwil hon a arweiniwyd yng Nghymru newydd fynd lle na fu neb o’r blaen, gan fapio’r cleifion cyntaf â thiwmorau’r ymennydd gyda system MRI CONNECTOM.

Imiwnotherapi i Drin Tiwmorau Niwrolegol a’r Angen am Ddysgu Rhagor
Imiwnotherapi, sef math o driniaeth canser sy’n ysgogi system imiwn y claf ei hun i fynd i’r afael â’r canser, yw un o lwyddiannau’r degawd diwethaf.
Mae cleifion â melanoma a chanserau datblygedig yr ysgyfaint a’r arennau, ynghyd â nifer o ganserau eraill, yn byw’n hirach o lawer nag erioed o’r blaen. Mae llawer sydd â melanoma metastatig yn byw heb y cyflwr am flynyddoedd lawer ar ôl derbyn y driniaeth gyntaf.
O ganlyniad i’r llwyddiannau hyn, mae clinigwyr a gwyddonwyr wedi troi eu sylw at y posibilrwydd y gall imiwnotherapi ddangos addewid ar gyfer canserau niwrolegol.Yn achos tiwmorau mwyaf ymosodol yr ymennydd, nid oes unrhyw driniaethau newydd wedi cael eu cyflwyno i ofal safonol ers bron i 20 mlynedd.
Mae CAR-T yn fath hynod arbenigol o imiwnotherapi, lle caiff celloedd imiwn y claf ei hun eu tynnu a’u peiriannu i adnabod celloedd canser.
Pan fydd y celloedd hyn wedi cael eu creu, maent wedyn yn cael eu lluosi a’u hailgyflwyno i’r corff, lle maen nhw’n mynd ati i ddinistrio celloedd canser. Mae CAR-T wedi profi’n therapi arloesol sy’n iachau rhai mathau o ganserau – lymffomata, yn bennaf – ar ôl i bob triniaeth arall fethu.
Er ei fod yn driniaeth hynod effeithiol, mae gan CAR-T rai heriau a gall arwain at symptomau niwrolegol trallodus, yn enwedig pan fydd y lymffoma yn yr ymennydd neu mewn rhannau eraill o’r system nerfol, oherwydd bod y cynnydd yng ngweithgaredd y system imiwn yn dechrau effeithio ar strwythurau niwronaidd bregus yn yr ymennydd.
Fe wnaeth yr Athrawon Karin Straathof, Marta Alonso, Claire Roddie, i gyd rannu safbwyntiau unigryw am yr hyn sy’n achosi niwro-wenwyndra mewn CAR-T a beth gellir ei wneud i ragweld a chynyddu ei effaith. Yn ôl yr hyn sy’n dod i’r amlwg, y mwyaf yw baich y tiwmor yn yr ymennydd, y mwyaf tebygol y mae cleifion o ddioddef sgil-effeithiau niwrolegol pan fyddant yn derbyn CAR-T neu fathau eraill o imiwnotherapi.
Ymddengys fod CAR-T yn cynyddu gweithgaredd celloedd microglia yn yr ymennydd, sef celloedd imiwn arbenigol unigryw, sydd i’w cael yn bennaf yn yr ymennydd a’r system nerfol berifferol. Mae’r gweithgaredd hwn yn lleihau’r gwynnin yn yr ymennydd, a all newid swyddogaeth yr hipocampws, sef strwythur allweddol yn yr ymennydd sy’n gyfrifol am ddysgu a phrosesu a storio atgofion.
Mae hny yn senario heriol i glinigwyr, gan eu bod eisiau trin cleifion â’r triniaethau diweddaraf a mwyaf effeithiol, yn enwedig pan fydd y clefyd yn glefyd o bwys, ac eto gall baich clefyd fod yn ffactor cyfyngol wrth ddewis defnyddio imiwnotherapïau.
Galwodd y cyflwynwyr am well dealltwriaeth o’r ymateb a’r ymwrthedd i CAR-T ac imiwnotherapïau eraill fel y gall strategaethau newydd sy’n seiliedig ar y wybodaeth gael eu dyfeisio i gyfyngu ar y sgil-effeithiau. Hefyd, gall ffyrdd newydd o beiriannu celloedd CAR-T a’u cyfuno â thriniaethau eraill fel firotherapi sy’n adnabod celloedd canser yn fwy cywir, fod yn fuddiol wrth leihau’r amhariad gwybyddol trallodus a all ddigwydd gyda’r triniaethau hyn.
Treialon Clinigol Tiwmorau’r Ymennydd – Deall Beth Sydd Bwysicaf i Gleifion
Fe wnaeth treialon clinigol tiwmorau’r ymennydd gael cryn sylw ar ddydd Iau a dydd Gwener y gynhadledd.
Mae’n haws i rai ardaloedd o’r DU nag eraill gymryd rhan mewn treialon clinigol, gan olygu bod llawer o gleifion tiwmorau’r ymennydd yn colli allan. Gwaethygir hyn gan y ffaith bod y rhan fwyaf o gleifion treialon tiwmorau’r ymennydd yn bobl wyn, canol oed, sydd â gwariant dros ben i gyflawni ymweliadau lluosog â’r ysbyty, sy’n gwaethygu anghydraddoldebau canser ymhellach.
Fe wnaeth cyflwynwyr gyfleu bod gwir angen cynyddu’r gweithlu niwro-oncoleg. Mae gofalu am gleifion tiwmorau’r ymennydd mewn treialon clinigol yn waith hynod arbenigol. Gyda charedigrwydd rhyngbersonol yn sgil allweddol, nid yw’n ymarferol bod nyrs ymchwil yn gweithio ar draws safleoedd tiwmorau niferus, fel sy’n digwydd mor aml oherwydd prinder staff. Mae angen mwy o nyrsys niwro-oncoleg ar frys, yn enwedig o ystyried yr uchelgais i gynyddu nifer treialon tiwmorau’r ymennydd ar draws y DU.Mae’n rhaid bod ein holl weithredoedd yn gosod cleifion yn ganolog, ond codwyd pryderon nad oes gan gleifion fynediad amserol at wybodaeth ac arweiniad o ran cymryd rhan mewn treialon clinigol.
Consortiwm Therapiwteg Newydd Tiwmorau’r Ymennydd NIHR
Yn y gynhadledd, cyhoeddodd yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) fenter sydd y cyntaf o’i math yn y byd. Bydd Consortiwm Therapiwteg Newydd Tiwmorau’r Ymennydd
NIHR yn mynd ati i yrru ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i diwmorau’r ymennydd yn ei blaen, gyda’r gobaith y bydd y DU cyn hir yn sefydlu’i hyn fel arweinydd ar gyfer datblygu a phrofi therapïau newydd mawr eu hangen.Nod y consortiwm fydd datblygu portffolio o dreialon clinigol cam cynnar a cham hwyr gwell, wedi’u cydlynu, i gleifion pediatrig tiwmorau’r ymennydd a chleifion sy’n oedolion.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob claf, lle y bônt yn gymwys, yn gallu cymryd rhan mewn treial clinigol, ni waeth ble maen nhw’n byw yn y DU. Yn hanfodol i lwyddiant hyn fydd mynediad at brofion genetig cynhwysfawr i’r holl gleifion sydd wedi cael eu heffeithio gan diwmor yr ymennydd, fel y gellir paru’r therapi cywir â’r claf cywir, ar yr adeg gywir.
Hefyd, mae’r consortiwm yn bwriadu ymestyn amrediad nodweddu moleciwlaidd tiwmorau’r ymennydd lle gellir cysylltu gwybodaeth anhysbys â chronfeydd data a’i rhannu i’w defnyddio gan ymchwilwyr a chlinigwyr ar draws y byd i helpu i yrru cynnydd.
Bydd rhan o’r prosiect hwn hefyd yn mynd ati i fapio hynt naturiol datblygiad is-deipiau prinnach o diwmorau’r ymennydd, yn ogystal â’r rhai y deuir ar eu traws yn fwy cyffredin mewn clinig.
Cefnogir y prosiect uchelgeisiol hwn gan seilwaith hyfforddi Cenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell, y mae Ymchwil Canser Cymru yn bartner balch iddo. Bydd hyn yn helpu i amlygu arweinwyr gwyddonol a chlinigol y dyfodol ym maes ymchwil i diwmorau’r ymennydd. Rhywbeth a fyddai wir yn gosod y DU ym mlaenllaw mewn ymchwil a thriniaeth clefyd sy’n parhau i ddinistrio teuluoedd ar draws y byd.
At y Dyfodol
Er yr arferai tiwmorau’r ymennydd gael eu hystyried yn ganser cymharol brin o gymharu â chanserau eraill fel canser y coluddyn, y fron, yr ysgyfaint a’r brostad, mae cyfraddau’r achosion yn cynyddu a dyma brif achos marwolaeth o ganser ymhlith pobl o dan 40 oed. Yn hanesyddol, dim ond tuag 1% o’r holl gyllid ymchwil i ganserau y mae tiwmorau’r ymennydd wedi’i gael.
Fodd bynnag, erbyn diwedd y gynhadledd dridiau, ni allech ond teimlo gwir optimistiaeth y bydd y degawd nesaf o ymchwil i diwmorau’r ymennydd yn gweld datblygiadau ystyrlon gwirioneddol yn nhriniaeth a gofal cleifion sy’n cael diagnosis o’r clefyd distrywiol hwn wrth i fwy o fuddsoddiad gael ei addo.Dangosoddd yr ymchwil a arddangoswyd dros y tridiau wir fomentwm yn y maes wrth i fàs critigol y clinigwyr a’r gwyddonwyr sy’n ymwneud ag ymchwil i diwmorau’r ymennydd barhau i dyfu. Trwy gyflwyno Consortiwm Therapiwteg Tiwmorau’r Ymennydd NIHR yn y DU, dylai ymchwil a thriniaeth gael eu cydlynu’n well a chanolbwyntio’n fwy ar anghenion cleifion.
I helpu i feithrin cymuned ymchwil ffyniannus i diwmorau’r ymennydd ar draws y DU, bydd Ymchwil Canser Cymru yn cynnal ei symposiwm undydd ar ymchwil i diwmorau’r ymennydd yn stadiwm SWALEC, Caerdydd, ar 19 Medi 2025, a bydd yn dwyn clinigwyr, gwyddonwyr, nyrsys a chleifion o bob cwr o Gymru ynghyd i rannu syniadau a meithrin cydweithrediadau newydd.