Symud at y prif gynnwys

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol

Lawrlwythwch a darllenwch ein adroddiadau blynyddol isod i weld sut mae eich cefnogaeth yn helpu i uno Cymru yn erbyn canser

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r Datganiadau Ariannol

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026

Darllenwch yr adroddiad llawn

Ymchwil Canser Cymru yw elusen ymchwil canser Cymru. Ni yw’r unig elusen sydd wedi ymrwymo i ariannu ymchwil newydd yng Nghymru sy’n ymwneud â chanser.

Ers 60 mlynedd, mae’r elusen wedi datblygu ein dealltwriaeth o ganser a sut i’w drin drwy ariannu ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru. Mae’r elusen yn ariannu cynigion ymchwil a gyflwynir gan ymchwilwyr a chlinigwyr gwyddonol sy’n gweithio ym mhrifysgolion Cymru, y GIG, a sefydliadau academaidd ac/neu ymchwil eraill yng Nghymru.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru yn darparu goruchwyliaeth gyfreithiol, arweiniad strategol, a chymeradwyaeth derfynol am gyllid ar gyfer ymchwil, gan wneud yn siŵr bod yr elusen yn cyflawni ei chenhadaeth i ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion ledled Cymru.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd