Diolch!
‘Diolch’ am gefnogi ein helusen wrth i ni ddathlu ein 60fed pen blwydd.
Ni yw elusen ymchwil canser Cymru – mae llawer o bobl yn credu ar gam ein bod ni’n gysylltiedig ag elusennau eraill, ond, na – rydyn ni’n elusen gwbl annibynnol. Ar ben hynny, ni yw’r unig elusen sydd wedi ymroi i ariannu ymchwil canser yng Nghymru.
£2.86 i sbarduno arloesedd
Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyffrous iawn – bu’n flwyddyn a’n gwelodd yn dyfarnu ein rownd fwyaf erioed o grantiau ymchwil canser – y swm rhyfeddol o £2.86 miliwn i sbarduno arloesedd wrth wneud diagnosis o ganser a’i drin yma yng Nghymru. A dyna sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni’n bodoli – ein nod yw uno Cymru yn erbyn canser trwy ymchwil canser o’r radd flaenaf yma yng Nghymru.
Eich cefnogaeth chi
Eich cefnogaeth chi sy’n caniatáu i ni wneud y gwaith pwysig yma sy’n achub bywydau.
Felly, i bawb sydd wedi rhedeg rasys 10K, hanner marathonau a marathonau ar ein rhan; cynnal nosweithiau cwis a gwerthu cacennau i godi arian i ni – Diolch.
I holl aelodau dygn a gweithgar ein pwyllgorau codi arian – Diolch.
I’r bobl sy’n cyfrannu rhoddion, siopa a gwirfoddoli yn ein 16 o siopau ledled Cymru – Diolch.
I’r holl fusnesau y mae eu haelodau staff wedi ein helpu i godi arian a rhoi o’u hamser yn hael iawn i ni – Diolch.
Mari Grug a Millie-Mae
I’n llysgenhadon rhyfeddol – gan gyfeirio’n arbennig eleni at Mari Grug a Millie-Mae Adams – Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud ar ein rhan.
I Rachel, Amy a Dr Adams am ganiatáu i ni gynnwys eu straeon – Diolch.
Ac i chi am fod yn gefnogwr ffyddlon Ymchwil Canser Cymru – Diolch.