Symud at y prif gynnwys

Ein gwaith

Ers 1966, mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn arbed bywydau, yma yng Nghymru. Mae bron i 60 mlynedd o ymchwil wedi cyfrannu at welliannau helaeth mewn gwasanaethau canser a deilliannau gwell i nifer ddirifedi o bobl. Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn bod canser yn glefyd sy’n bygwth bywyd. Gwnawn hyn trwy gefnogi’r ymchwilwyr a’r clinigwyr canser gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid bywydau, gan fod ymchwil yn ein DNA.

Ymchwil: mae yn ein DNA

Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen sy’n ymroi’n gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, i Gymru. Ers dros 50 mlynedd, rydym wedi gweithio gyda’r llywodraeth a phenderfynwyr allweddol i chwyldroi ymchwil canser a gwneud y newidiadau cywir i bolisi dros bobl Cymru. 

Ni fu ein gwaith erioed mor bwysig. Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd gan 230,000 o bobl ar draws Cymru ganser. Bydd un o bob dau ohonom yn cael canser, sy’n golygu y bydd canser yn effeithio rywsut ar bob un ohonom. 

I fynd i’r afael â hyn, mae ein hymchwil yn digwydd ar hyd a lled Cymru, yn ein cymunedau, ein hysbytai, ein meddygfeydd. Mae’n gwneud Cymru’n lle iachach a gwell i fyw. 

Diolch i’r gwaith a wnaethom eisoes, rydym ni’n gwybod mwy am ganser nag erioed o’r blaen. Bob dydd, rydym ni’n troi’r wybodaeth hon yn driniaethau ac yn ddeilliannau gwell i gleifion canser. 

A byddwn yn dal ati i ddysgu. Byddwn yn parhau i weithio tuag at driniaethau, profion a chyffuriau gwell fyth i bobl â chanser, fel y gallant fyw bywyd gwell gyda’u hanwyliaid. Mae’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn hollgynhwysol – mae ein hymchwil i bob canser, i bawb, ac i Gymru gyfan. 

Gydag ymchwil, gallwn newid y naratif o ran diagnosis canser. Oherwydd mae gobaith yn parhau’n ganolog i’n DNA. Gobaith i’r genhedlaeth nesaf o gleifion canser, i’n plant ac i Gymru.

Haelioni: mae yn ein DNA

Mae haelioni yn rhan o DNA ein cefnogwyr.

Ers 1966, mae pobl Cymru wedi dod ynghyd i ariannu dros £30m o ymchwil wych yma ar garreg y drws. Mae hyn wedi ein galluogi ni i fynd i’r afael â blaenoriaethau cleifion canser ledled Cymru.

Mae wedi ariannu ymchwil a thriniaethau sy’n achub bywyd, mae wedi cefnogi cymdogion, ffrindiau a theulu, ac mae wedi sefydlu’n gadarn fod Cymru’n ddarparwr ymchwil ac arloesi o safon.

Canser yw un o laddwyr mwyaf Cymru, ond mae ein hymchwil, a ariennir gan ein cefnogwyr yn unig, yn talu am yr amser a’r cyfarpar y mae ar ein gwyddonwyr eu hangen.

Mae’n talu am feddyliau gwyddonol ardderchog, yma yng Nghymru, i ymchwilio i ganser a darganfod datblygiadau i wella deilliannau ar draws y wlad.

O rodd syml, i redeg marathon i wirfoddoli yn ein siopau – a phopeth yn y canol – mae ein cefnogwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i filoedd o bobl bob dydd. A thrwy gefnogi Ymchwil Canser Cymru, gallech chi hefyd chwarae rôl bwysig mewn Cymru unedig yn erbyn Canser.