Partneriaethau Corfforaethol
Allai ddim bod yn haws i’ch busnes fod yn gysylltiedig ag Ymchwil Canser Cymru
Mae sawl ffordd amrywiol y gallwch chi gefnogi ein gwaith, o godi arian gan staff i roi canran o werthiannau cynnyrch neu wasanaeth rydych chi’n ei gynnig.
Dyma rai syniadau am sut gallai eich gweithle gymryd rhan:
- P’un a ydych chi’n gweithio mewn swyddfa, ffatri neu yn yr awyr agored, perswadiwch eich cydweithwyr i gofrestru am ddigwyddiad codi arian. Mae gwisg ffansi, gwerthu cacennau a heriau camau i gyd yn ffyrdd gwych o gael hwyl a chodi arian
- Beth am gynnig tîm i un o’n digwyddiadau? Mae gennym ni deithiau cerdded, rasys a skydives, i enwi ond rhai! Mynnwch gipolwg ar ein rhestr lawn o ddigwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i’ch staff
- Gwirfoddolwch eich amser a’ch arbenigedd! Mae gennym rwydwaith o siopau ar draws de Cymru sydd bob amser angen help llaw i ddod o hyd i eitemau ail-law, a’u prosesu, er mwyn eu gwerthu. Allai eich tîm wirfoddoli amser i helpu codi mwy o arian trwy ein siopau neu mewn digwyddiad her? Cysylltwch i ddysgu rhagor!
- Dewch yn noddwr corfforaethol. Rydym ni’n cynnal llawer o ddigwyddiadau a allai ymestyn cyrhaeddiad eich brand o fewn cymunedau Cymru. Siaradwch â ni am sut gallai noddi digwyddiad eich helpu i gyflawni eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, gan gael effaith fawr ar ein gwaith ymchwil
Mae cynifer o gyfleoedd i’ch busnes neu weithle wneud gwahaniaeth i bobl sy’n byw gyda chanser ar draws Cymru. Diolch yn fawr i chi am ein hystyried ni. Cysylltwch â ni ar 029 2185 5050 neu contact-us@cancerresearchwales.org.uk os hoffech glywed rhagor neu drafod eich syniadau.
 diddordeb mewn dod yn bartner corfforaethol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!