Symud at y prif gynnwys

Rheolwr Siop - Talbot Green

Bydd Rheolwr y Siop yn gyfrifol am reoli’r siop o ddydd i ddydd, gan weithio i sicrhau’r incwm mwyaf i’r elusen. Bydd deiliad y swydd yn llawn hunangymhelliant, bydd yn angerddol am ddarparu safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a bydd yn greadigol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol. A chithau’n cynrychioli’r elusen yn y gymuned, byddwch yn recriwtio, yn symbylu ac yn datblygu gwirfoddolwyr i hyrwyddo gwaith Ymchwil Canser Cymru.

Swyddi gwag eraill

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd