Ein Siopau
Siopwch gyda ni heddiw a thrawsnewidiwch fywydau cleifion canser yng Nghymru.
Rydym yn derbyn eitemau trydan bach gan gynnwys sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, prosesyddion bwyd, cymysgwyr bwyd, peiriannau coffi, chwaraewyr CD, chwaraewyr DVD, radios a lampau. Noder, cysylltwch â'r siop yn gyntaf i gadarnhau a allwn dderbyn yr eitem cyn dod â unrhyw roddion trydanol.
Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn eitemau trydan mawr, megis nwyddau gwyn – oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi, meicrodon etc, gwresogwyr, peiriannau 'toastie', eitemau hylendid personol a dyfeisiau sy'n cadw data fel gliniaduron, ffonau symudol, neu dabledi.
Dod o hyd i'ch siop leol