Symud at y prif gynnwys

Elusen y Flwyddyn

Gwnewch wahaniaeth parhaol i bobl y mae canser yn effeithio arnynt trwy ddewis Ymchwil Canser Cymru yn Elusen y Flwyddyn i chi. Mae partneriaeth yn ffordd rymus o ddwyn pobl ynghyd dros achos cyffredin.

Pam dewis Ymchwil Canser Cymru?

Ni yw’r unig elusen sy’n llwyr ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, i Gymru. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar brosiectau arloesol sy’n gwella sut mae canser yn cael ei atal, ei ganfod a’i drin.

When you partner with us as your Charity of the Year, you’re helping to keep world-class research happening closer to home, while demonstrating your organisation’s commitment to making a meaningful difference.

Sut beth yw partneriaeth Elusen y Flwyddyn

Rydym yn gwybod bod pob sefydliad yn wahanol. Dyna pam mae ein partneriaethau yn hyblyg ac wedi’u teilwra yn ôl eich nodau, eich diwylliant a’ch gallu.

Gallai eich partneriaeth Elusen y Flwyddyn gynnwys:

  • Codi arian wedi’i arwain gan weithwyr trwy ddigwyddiadau, heriau ac ymgyrchoedd.
  • Rhoi trwy’r Gyflogres, sy’n ffordd effeithlon o ran treth i roi.
  • Cyfleoedd gwirfoddoli i’ch timau ar draws Cymru.
  • Gweithgareddau codi ymwybyddiaeth sy’n ennyn diddordeb staff a chwsmeriaid yn eich brand.
  • Rhoddion nwyddau neu wasanaethau i gefnogi ein gwaith a gwerthu yn ein siopau
  • Nawdd sy’n caniatáu dangos eich logo mewn rhai digwyddiadau allweddol.

Yr effaith gewch chi

Mae pob punt sy’n cael ei chodi trwy bartneriaeth Elusen y Flwyddyn yn helpu i ariannu ymchwil, yng Nghymru, sy’n achub bywydau. Gallai eich cefnogaeth helpu i ddatblygu triniaethau newydd, gwella diagnosis cynnar, a chynnig gobaith i bobl y mae canser wedi effeithio arnynt, nawr ac yn y dyfodol.

I ddysgu rhagor am ddod yn bartner Elusen y Flwyddyn, cysylltwch â’n tîm corfforaethol heddiw.

Keeping in touch

Mae eich cefnogaeth yn bwysig, a byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â chi am ein hymchwil a ffyrdd eraill y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru, gan gynnwys ymgyrchu, codi arian a gwirfoddoli. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad drwy'r post bob hyn a hyn oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Rhowch wybod i ni os ydych hefyd yn hapus i glywed gennym drwy e-bost a dros y ffôn:

Gallwch optio allan ar unrhyw adeg, felly os byddwch yn newid eich meddwl am glywed gennym ni, neu sut rydym yn cysylltu â chi, ffoniwch ni ar 02921 855050 neu anfonwch e-bost atom yn contact-us@cancerresearchwales.org.uk

Rydym yn addo cadw'ch manylion yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu i unrhyw drydydd parti. Gall eich gwybodaeth gael ei phrosesu ar ein rhan gan gyflenwyr a ddewiswyd yn ofalus. Gweler ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod mwy am eich hawliau, a sut rydym yn rheoli, defnyddio a gofalu am eich gwybodaeth bersonol.