Syniadau ac ysbrydoliaeth
Ddim yn siŵr sut hoffech chi godi arian? Peidiwch â phoeni, mae digon o ffyrdd i gymryd rhan, a gallwch chi ddewis ffordd sy’n addas i’ch steil a’ch sgiliau.
O heriau personol fel rhedeg, cerdded neu feicio, i drefnu digwyddiadau fel gwerthu cacennau, boreau coffi neu nosweithiau cwis, mae rhywbeth i bawb. Gallech chi hyd yn oed droi hobi neu ddiddordeb yn ffordd o godi arian a gwneud rhywbeth rydych chi eisoes yn ei garu.
Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch chi, mae ein Tîm Codi Arian yma i helpu gyda syniadau, awgrymiadau ac arweiniad i’ch rhoi ar ben ffordd. Byddwn yn eich cefnogi chi ar hyd y ffordd fel y gallwch chi ganolbwyntio ar wneud eich gweithgaredd codi arian yn llwyddiant.
Canllawiau defnyddiol
I gefnogi eich gweithgaredd codi arian, rydym wedi creu amrywiaeth o ganllawiau, adnoddau a deunyddiau defnyddiol y gellir eu lawrlwytho i roi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi ar hyd y ffordd.
Os oes angen rhywbeth penodol arnoch chi, bydd ein tîm yn hapus i helpu.
Ysbrydoli cefnogwyr
Pa ffordd well o gael eich ysbrydoli na chlywed gan ein cefnogwyr gwych a’r hyn maen nhw wedi’i wneud? O ddigwyddiadau cymunedol a heriau personol i ymgyrchoedd creadigol a chodi arian yn y gweithle, gallwch chi ddod o hyd i ddigon o ysbrydoliaeth i’ch helpu i gynllunio eich digwyddiad codi arian eich hun, wrth ddarllen diweddariadau ar ein tudalen newyddion.
Dysgwch ragor am bobl fel Gwennan a gododd £5,000 ar gyfer ei phen-blwydd yn 40 oed, neu Angharad a ymgymerodd â her bersonol enfawr o 1936km.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhywfaint o gymorth ychwanegol, mae ein tîm yma ar eich cyfer. P’un a ydych chi’n chwilio am gyngor, neu adborth ynghylch syniad, neu ychydig o anogaeth yn unig, byddwn ni wrth ein bodd i glywed gennych chi.
Cysylltwch â ni a gadewch i ni eich helpu chi i wireddu eich gweithgaredd codi arian.