- Newyddion a Diweddariadau
- Sialens 90 diwrnod, 1,936km Cadeirydd CFfI Cymru - Angharad
Sialens 90 diwrnod, 1,936km Cadeirydd CFfI Cymru - Angharad
Her cerdded, rhedeg, beicio neu nofio 13 milltir y diwrnod
Cefnogwch her 1,936km Angharad
Mae Cadeirydd CFfI Cymru, Angharad Thomas, wedi gosod her codi arian anhygoel i'w hun er mwyn cefnogi Ymchwil Canser Cymru.
Pan y'i gwnaed yn gadeirydd yn mis Medi 2025, cyhoeddodd Angharad o Sir Gaerfyrddin mai Ymchwil Canser Cymru fyddai ei Elusen y Cadeirydd ar gyfer 2025/2026.
Dewisodd Angharad ni gan fod canser wedi effeithio ar ei theulu ac mae'r her y mae wedi ei dewis — her 1,936km — yn cyd-fynd â phen-blwydd 90 mlwyddiant CFfI Cymru eleni.
Gan ddechrau ar 24 Ebrill, dros gyfnod o 90 diwrnod tan 23 Mehefin, bydd Angharad yn symud 1,936 cilometr trwy gerdded, rhedeg, beicio neu nofio. Mae hyn yn gyfatebol i bellter hanner marathon y dydd — 13 milltir — i godi arian i gefnogi gwaith Ymchwil Canser Cymru.
Mae canser wedi effeithio ar fy nheulu
"Ym Medi'r llynedd, cefais yr anrhydedd o gael fy ethol yn Llywydd CFfI Cymru ar gyfer 2025/26. Mae cael fy ethol i'r rôl hon yn fraint, ond mae cael y cyfle i wasanaethu fel Llywydd yn ystod blwyddyn 90 oed CFfI Cymru wedi gwneud hyn yn arbennig o atgofus," dywedodd Angharad.
"Dewisais Ymchwil Canser Cymru fel Elusen y Cadeirydd gan fod canser wedi effeithio ar sawl aelod o fy nheulu yn ogystal â phobl o fewn fy nghymuned ehangach. Yn anffodus, nid yw rhai o'r rhai a ddiagnosiswyd gyda'r salwch câs hwn gyda ni mwyach. Gydag un ymhob dau berson yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan ganser mewn rhyw ffurf, credaf ei bod yn hollbwysig codi ymwybyddiaeth o hyn o fewn ein cymunedau ac, yn bwysicaf, codi arian sy'n aros yng Nghymru i gefnogi ymchwil sy'n arbed bywydau a helpu i roi'r cyfle i fwy o bobl i gael iachâd."
Sialens heriol yn gorfforol a meddyliol
"Mae pellter yr her o 1,936km yn adlewyrchu'r flwyddyn y sefydlwyd CFfI Cymru, tra bod yr amserlen yn cynrychioli pob blwyddyn o'i fodolaeth, gan gyfateb i bellter hanner marathon bob dydd," ychwanegodd Angharad.
"Bydd y sialens yn un heriol yn gorfforol a meddyliol ond tydi hyn yn ddim o gymharu â'r hyn y mae cymaint o unigolion a theuluoedd yn ei wynebu, a bydd meddwl am hynny yn fy ysgogi i barhau i fynd ymlaen gyda'r sialens. Rwyf wedi fy syfrdanu gan y gefnogaeth a'r haelioni rwyf wedi ei dderbyn ac yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi fy nghefnogi, rhoi a fy annog, ac rwyf yn falch dros ben o gynrychioli CFfI Cymru wrth godi arian ar gyfer achos mor bwysig," myfyriodd hi.
Chwarae rôl hanfodol mewn cymunedau gwledig
Mae CFfI Cymru yn cynnwys bron i 6,000 o aelodau ar draws 138 clwb a 12 sir, gydag oedran yr aelodau rhwng 10 a 28.
Mae'r sefydliad yn chwarae rôl hanfodol mewn cymunedau gwledig, gan ddarparu sgiliau bywyd hanfodol, hyder a chyfleoedd i bobl ifanc sydd yn aml ddim ar gael yn unrhywle arall.
Yn falch o gael cefnogaeth CFfI Cymru
"Rydym yn ddiolchgar i Angharad am fynd amdani go iawn gyda'r Her y Cadeirydd sydd hefyd yn annog aelodau eraill CFfI Cymru i gymryd rhan. Mae'n syniad gwych ddathlu eu penblwydd yn 90 fel hyn," meddai Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru.
"Rydym yn falch o gael cefnogaeth CFfI Cymru eleni gan ei bod yn gyfle gwych i gysylltu â chynulleidfa iau ledled Cymru a bydd llawer ohonynt wedi cael eu heffeithio gan ganser yn eu teuluoedd. Mae'n wych gallu cryfhau ymwybyddiaeth o'n helusen ymysg cymunedau Cymreig a gwledig.
"Fel elusen Gymreig annibynnol sy'n dathlu ein 60fed pen-blwydd eleni, mae'n hanfodol codi ymwybyddiaeth o'r ymchwil a ariannwn yng Nghymru er budd pobl Cymru ac ni allwn ddiolch digon i Angharad am ei hymrwymiad a'i hymdrechion," meddai Adam Fletcher yn ddiolchgar.