2026 Ras Dydd Gŵyl Dewi
Sign up for this event
Math o ddigwyddiad
Ras
Dyddiad
1 Mawrth 2026
Lleoliad
Parc Bute, Caerdydd
Nawdd lleiaf
£50
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym wedi ymuno â The Fix Events i fod yn un o'r elusennau enwebedig ar gyfer y Ras Dydd Gŵyl Dewi sy'n dychwelyd
Rydyn ni’n gwahodd ein rhedwyr i ddod ynghyd â ffrindiau a theulu, gwisgo’ch gwisgoedd Cymreig gorau a chodi arian i Ymchwil Canser Cymru. Cynhelir yr her ym Mharc Bute eiconig yng Nghaerdydd - cyfle perffaith i chi herio’ch hun drwy redeg ar eich pen eich hun, gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau!
Mae dewis o bellteroedd i bawb - 5K, 10K, Hanner Marathon, a hyd yn oed ‘rhediad bach’ arbennig i’n dreigiau bach! Bydd pob cyfranogwr yn derbyn amseru sglodyn rasio, medal hardd o ansawdd uchel i’w hychwanegu at eich casgliad, diodydd a lluniaeth ar y diwrnod, ynghyd â chynigion disgownt gan bartneriaid y digwyddiad.
Ar ôl cofrestru, cofiwch anfon e-bost atom yn events@cancerresearchwales.org.uk i roi gwybod eich bod yn rhan o dîm Ymchwil Canser Cymru.