Symud at y prif gynnwys
  • Run

17 May 2026

10K Ynys y Barri 2026

Sign up for this event

Ymunwch â TîmYCC

£10 + £120 o nawdd

Cofrestrwch nawr

I have my own place

Free

Cysylltu â ni

Math o ddigwyddiad

Run

Dyddiad y Digwyddiad

17 Mai 2026

Isafswm Ffi

£10 + £120 o nawdd

Mae Ymchwil Canser Cymru yn hynod gyffrous i fod yn brif bartner elusennol Ras 10K Ynys y Barri

Fel unig elusen ymchwil canser annibynnol Cymru, caiff yr holl arian rydym yn ei godi ei wario yma yng Nghymru ar ymchwil hanfodol i ganser.

Drwy bartneru gyda Run4Wales ar gyfer y digwyddiad hwyliog a chyfeillgar i deuluoedd hwn, byddwn yn cysylltu â phobl o bob cefndir ac rydym yn edrych ymlaen at eu cyfarfod, rhedeg gyda nhw ac eu cefnogi.

Ymunwch ag #TîmYCC heddiw a helpwch i lunio dyfodol gwell i gleifion canser yng Nghymru.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn gyda chi bob cam o’r ffordd. Bydd angen i bob cyfranogwr ymrwymo i godi o leiaf £120 mewn nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn.

Ychydig ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael cyswllt penodol yma yn Ymchwil Canser Cymru fydd wrth eich ochr trwy bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
    Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, clwb Rhedeg #TîmYCC
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys-t rhedeg yn cynnwys brand Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd eich £50 cyntaf o’ch targed codi arian)

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych chi’n cytuno i Delerau ac Amodau’r Cyfranogwr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a phartneriaid.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi