Symud at y prif gynnwys
  • Marathon
  • Ras

27 April 2025

Marathon Llundain TCS 2025

Sign up for this event

Math o ddigwyddiad

Marathon

Date

27 Ebrill 2025

Bydd Marathon Llundain TCS yn dychwelyd ddydd Sul 27 Ebrill 2025, ac mae'n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen. 

Rydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ein lleoedd Ein Bond Aur ac mae croeso i unrhyw un sy'n dymuno rhedeg gyda TeamCRW yn y digwyddiad eiconig hwn.

  • Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch ar gyfer ein Raffl. 
  • Bydd rhedwyr llwyddiannus yn talu ffi gofrestru o £25. Rhaid codi targed o £2,250, o leiaf.

Bydd eich cefnogaeth yn helpu i greu gwell yfory i bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru. Mae ymchwil yn rhan o'n DNA – mae ein gwaith yn helpu cleifion yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd yn newid y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf hefyd.

Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn gyda chi bob cam o'r daith yn ystod y marathon a’r cyfnod codi arian, a gyda'n gilydd gallwn drawsnewid bywydau cleifion canser a'u hanwyliaid yng Nghymru.

Cysylltwch â Ni i ymuno â TeamCRW

Bydd ein tîm codi arian yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd, gan ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau codi arian a syniadau i'ch helpu i gyrraedd eich targed. 

Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael eich lle eich hun, neu os ydych chi'n derbyn un o'n lleoedd Ein Bond Aur, byddwn yn eich cefnogi gyda:

  • Phecyn codi arian pwrpasol
  • Pwynt cyswllt pwrpasol i'ch cefnogi drwy'r broses gyfan
  • Diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau
  • Awgrymiadau a chynghorion ar gyfer eich amserlen hyfforddi
  • Cefnogaeth gan ein grŵp rhedeg ar Facebook #TîmCRW
  • Gwybodaeth am Cancer Research Wales a'n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • top a chit rhedeg Cancer Research Wales

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi