Symud at y prif gynnwys

Datblygiadau mewn Sgrinio Canser y Fron: A all ymchwil wella rhaglen sydd eisoes yn effeithiol?

Bob mis Hydref, mae’n Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Wythnos diwethaf, edrychom ar dirlun canser y fron yng Nghymru, sgrinio canser y fron a beth sy’n gysylltiedig â hynny, arwyddion a symptomau canser y fron, a rhai o’r camau a all gael eu cymryd i leihau risg oes o ddatblygu’r clefyd.

Yr wythnos yma, rydym ni’n trafod sgrinio canser y fron yn fanylach ac yn gofyn y cwestiwn: a all ymchwil wella rhaglen sgrinio sydd eisoes yn effeithiol?

Sgrinio Canser y Fron

Cyn y gall unrhyw raglen sgrinio gael ei chyflwyno’n genedlaethol, mae’n rhaid bob amser ystyried ac asesu’n ofalus risgiau a buddion sgrinio o’r fath mewn poblogaeth o bobl sydd heb symptomau, a darparu tystiolaeth gadarn i ddangos bod y manteision yn gorbwyso’r anfanteision o bell ffordd.

Yn ddiau, mae sgrinio canser y fron yn arbed bywydau ac, yn naturiol, mae’r rhan fwyaf o fenywod yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan pan gânt wahoddiad. Fodd bynnag, fel y mae’r diagram isod yn ei ddangos, mae agweddau negyddol ar y rhaglen.

O bob 200 o fenywod sy’n cael eu gwahodd i sgrinio’r fron, mae gwybodaeth bresennol yn awgrymu y bydd canser y fron yn cael ei ddarganfod mewn 15 ohonynt. 

Bydd pob un o’r 15 menyw hyn yn cael eu trin a bydd 3 ohonynt o hyd yn marw o’r clefyd yn y pen draw.

Mewn nifer gyfartal o fenywod nad ydynt yn cael eu sgrinio, bydd 15 achos o ganser y fron o hyd – bydd 8 menyw’n cael ei thrin a bydd 4 yn marw o’r clefyd yn y pen draw. Yn drawiadol, bydd 3 o’r 15 achos o ganser yn diwmorau na fyddent fyth wedi dod i’r amlwg nac achosi problem yn ystod oes yr unigolyn, ond byddai wedi cael triniaeth o hyd.

Yn ei hanfod, mae sgrinio canser y fron yn arwain at or-drin 3 menyw i arbed 1 bywyd. Fodd bynnag, mae cafeatau i’r astudiaethau a arweiniodd at y cyfrifiadau hyn, oherwydd ystyrir bod natur rhai ohonynt yn gyfyngedig ac, felly, nid ydynt yn darparu darlun llawn.

Ar hyn o bryd, mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu prawf gwaed seiliedig ar AI (deallusrwydd artiffisial), sy’n dangos addewid wrth ganfod canser y fron cam cynnar. Mae eu hastudiaethau hefyd yn ymchwilio p’un a all y prawf gwaed ganfod tiwmorau risg uchel cyn-ymledol neu’r carsinoma dwythellol sefydlog, neu DCIS, anymledol.

Mae DCIS yn gyflwr lle mae’r celloedd sy’n leinio’r dwythellau llaeth yn y fron wedi dechrau troi’n ganseraidd. Fodd bynnag, adeg y cam hwn, mae alltyfiant y celloedd hyn wedi’i gyfyngu i’r ddwythell laeth, heb unrhyw dystiolaeth o ledaenu i brif feinwe’r fron, sy’n gam datblygu mwy difrifol.

Mae’n hysbys y bydd rhai achosion o DCIS yn datblygu’n ganser ymledol y fron, gydag amcangyfrifon yn amrywio rhwng 20% a 50% o’r holl achosion. Hyd yn oed bryd hynny, mae’n anodd tu hwnt gwahaniaethu rhwng pa achosion o DCIS y bydd angen triniaeth gynnar bendant arnynt a pha achosion all gael eu monitro’n ddiogel. Mae cyfraddau goroesi DCIS yn 98% ar ôl 10 mlynedd, ni waeth p’un a roddwyd triniaeth ai peidio. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig, sef p’un a all strategaethau presennol sgrinio’r fron gael eu gwella ymhellach i atal gor-driniaeth ymhlith rhai menywod.

Bydd prosiect BrCaSPECT dan arweiniad yr Athro Dean Harris a’r Athro Peter Dunstan ym Mhrifysgol Abertawe yn dadansoddi gwaed dros 300 o gleifion sydd â chanser y fron, DCIS neu glefyd anfalaen y fron, a byddant yn cael eu cymharu â 160 o samplau rheoli. Mae ysbytai ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan ar fin dechrau recriwtio cleifion i’r astudiaeth.

Mae’r prawf yn seiliedig ar ddadansoddiad sbectrol Raman, sy’n cynnwys defnyddio laserau i ‘gyffroi ac actifadu’ samplau gwaed, gyda’r egni sy’n cael ei ryddhau o ganlyniad yn ffurfio arwydd-batrwm sy’n unigryw i’r moleciwlau sy’n bresennol yn y gwaed ar y pryd.

Y gobaith yw y bydd dull AI yn canfod rhai ‘olion bysedd moleciwlaidd’ yn y gwaed sy’n gallu canfod achosion mwy ymosodol o DCIS risg uwch sydd â’r potensial i ymledu’n gyflymach. Byddai osgoi gor-driniaeth mewn achosion ‘risg is’ mwy diniwed lle mae gennym fwy o hyder y bydd y celloedd canser sy’n ffurfio yn y DCIS yn parhau o fewn y ddwythell laeth, yn arbed cleifion rhag llawdriniaeth ddiangen.

Bydd yr ‘olion bysedd’ moleciwlaidd unigryw sy’n cael eu canfod yn y gwaed yn cynrychioli mater biolegol amrywiol y mae’r DCIS wedi’i secretu i’r gwaed. Mae hyn yn rhoi’r fantais ychwanegol y gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio i ganfod targedau therapiwtig newydd posibl, gan arwain at driniaethau sy’n llai ymwthiol ac yn fwy diogel yn yr achosion hynny o DCIS sydd angen triniaeth brydlon. Gallai cyfle o’r fath i greu triniaethau mwy cymedrol, neu i ddefnyddio cyffuriau arferol sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer cyflyrau eraill, gynnig ansawdd bywyd gwell i fenywod â DCIS, ni waeth beth yw ei botensial i ddatblygu.

Yr Athro Dean Harris

Prifysgol Abertawe

“Rydym ni’n llawn cyffro am gymhwyso ein model canfod canser y colon a’r rhefr i fath cyffredin arall o ganser. Rydym ni wedi nodi meysydd o fewn llwybrau canfod a thriniaeth canser y fron y gellid eu symleiddio ar gyfer gofal cleifion seiliedig yn fwy ar werth a chanfod cynharach, gan ddefnyddio canfyddiadau’r prawf gwaed.”

Wythnos nesaf, byddwn ni’n trafod canser gwrywaidd y fron a pha welliannau y gellir eu gwneud i gefnogi’r grŵp presennol hwn o gleifion sy’n cael eu tanwasanaethu.

Os hoffech ddysgu rhagor am Ymchwil Canser Cymru a sut gallwch chi helpu cefnogi ein hymchwil yma yng Nghymru, ewch i’n gwefan yma.