Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron
Ym mis Hydref eleni, rydym yn dod â phobl ynghyd i gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron – gan godi arian ac ymwybyddiaeth, i ddod â gobaith i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser y fron, ac ariannu ymchwil hanfodol i ganser y fron yma yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd wedi’i huno yn erbyn canser drwy ymchwil o safon fyd-eang. Gyda'n gilydd byddwn yn lleihau effaith canser ac yn gwella cyfraddau goroesi annerbyniol. Byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel clefyd sy'n peryglu bywyd. A byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi'r ymchwilwyr canser a'r clinigwyr gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid ein bywydau.