Symud at y prif gynnwys

Sgrinio Canser y Coluddyn yng Nghymru

Mae Ymchwil Canser Cymru yn croesawu gostwng oedran bod yn gymwys ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn i 51 oed, a gyhoeddwyd ar 4 Hydref 2023

Mwy o Wybodaeth

Darllenwch am ganser y coluddyn a sut mae ein prosiectau ymchwil yn gwneud gwahaniaeth.

Dysgwch fwy

Mae tua 60 o bobl rhwng 51 a 54 oed yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yng Nghymru bob blwyddyn, gan olygu y bydd y gostyngiad newydd yn yr oedran sgrinio, gobeithio, yn caniatáu am ganfod a thrin llawer o’r achosion hyn yn gynt. At hynny, bydd gan lawer mwy o bobl yn y grŵp oedran hwn bolypau, sydd â’r potensial i ddatblygu’n ganser. Bydd adnabod y bobl hyn yn gynnar a thynnu polypau cyn-ganseraidd yn helpu i atal canser y coluddyn rhag datblygu ac, felly, arbed mwy fyth o fywydau.

Fodd bynnag, yn dilyn canlyniad sgrinio cadarnhaol, mae’n rhaid i gleifion gael profion dilynol, sef colonosgopi yn nodweddiadol. Mae dros 8300 o bobl yn aros am golonosgopi yng Nghymru yn barod, gyda bron i hanner o’r rhain wedi aros dros 14 wythnos. Gyda’r gostyngiad newydd yn yr oedran sgrinio yn arwain yn anochel at archebu rhagor o golonosgopïau, mae’n rhaid i’r GIG sicrhau bod buddsoddiad ar yr un pryd mewn cynyddu’r capasiti diagnostig, sydd eisoes yn cael trafferth ateb y galw.

Dangosodd astudiaethau a ariannwyd yn flaenorol gan Ymchwil Canser Cymru mai cleifion canser y coluddyn yng Nghymru sy’n aros hiraf cyn diagnosis a thriniaeth o gymharu â gwledydd datblygedig sydd â systemau gofal iechyd tebyg. I raddau helaeth, roedd hyn oherwydd mynediad cyfyngedig at ddiagnosteg amserol. Fe wnaeth pandemig Covid-19 waethygu’r problemau hyn, gan arwain at ffigurau pryderus uchod y rhestri aros.

Mae prawf sgrinio canser y coluddyn (prawf imiwnocemegol ar ysgarthion neu FIT) wedi’i seilio ar ganfod gwaeth yn yr ysgarthion. Mae’r prawf yn canfod hemoglobin yn benodol, sef protein allweddol yng nghelloedd coch y gwaed. Yng Nghymru, mae’r trothwy ar gyfer canlyniad FIT cadarnhaol ar gyfer sgrinio wedi cael ei ostwng yn ddiweddar i 120μg/g o haemoglobin yn yr ysgarthion, sy’n uwch na’r Alban (80μg/g) ond yn gyson â Lloegr. Mae hyn yn golygu bod y prawf yn fwy sensitif yn yr Alban ac, felly, mae’n fwy tebygol o ganfod canser y coluddyn neu bolypau datblygedig.

Pan gyflwynwyd y prawf presennol yng Nghymru yn 2019, y nod a ddatganwyd oedd gostwng y trothwy i 80μg/g erbyn 2023. Gan nad yw hyn wedi’i weithredu eto, rydym ni’n galw ar y GIG yng Nghymru i roi’r trothwy 80μg/g ar waith cyn gynted â phosibl.

Er nad oes amheuaeth fod sgrinio canser y coluddyn yn arbed bywydau ac rydym ni’n annog pawb i gymryd rhan pan fyddant yn cael gwahoddiad, mae profion sgrinio presennol yn arwain at yr angen am nifer fawr o golonosgopïau. Gan na fydd canser y coluddyn ar oddeutu 90% o’r bobl hyn, gallai prawf sgrinio gwell leihau’r straen ar system sydd eisoes dan bwysau.

Trwy’r ymchwilwyr rydym ni’n eu hariannu ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sgrinio Coluddion Cymru i weld a allwn ni gynyddu cywirdeb sgrinio am ganser y coluddyn gan ddefnyddio prawf gwaed Raman.

Mae prawf gwaed Raman wedi’i llunio i nodi “ôl bysedd moleciwlaidd” penodol ar gyfer canser y coluddyn yn y gwaed. Mae astudiaethau a wnaed eisoes mewn gofal sylfaenol wedi dangos bod y prawf gwaed yn gallu canfod 80% o ganserau’r coluddyn Cam I a II a 100% o’r holl ganserau Cam III a IV mewn cleifion sydd â symptomau.

Mae Ymchwil Canser Cymru bellach yn ariannu astudiaeth COLOSPECT, lle y bydd samplau gwaed o 2000 o bobl sy’n cael eu hatgyfeirio am golonosgopi yn dilyn prawf sgrinio cadarnhaol yn cael eu dadansoddi. Y nod yw asesu pa mor gywir y mae prawf gwaed Raman yn canfod canser yn y cleifion hyn, ac i bennu hefyd faint o golonosgopïau y gellid eu hosgoi trwy gael gwybod nad yw canser y coluddyn yn bresennol.

Os bydd y prawf hwn yn llwyddiannus, mae ganddo’r potensial i drawsnewid rhaglen sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru trwy ganfod mwy o ganserau’r coluddyn, gan leihau nifer y colonosgopïau diangen a sicrhau bod cleifion ar y rhestr aros yn gallu cael eu gweld yn gynt.

Er bod croeso mawr i’r cyhoeddiad am ostwng oedran sgrinio canser y coluddyn, mae pwysau o fewn y system iechyd yng Nghymru yn lleddfu effaith bosibl y newid hwn. Bydd buddsoddi mewn capasiti diagnostig ac yn y gweithlu’n hanfodol wrth symud ymlaen i sicrhau bod cleifion yn gallu cael canlyniadau amserol.

Gall ymchwil gynnig llawer o’r atebion i’r heriau canser mwyaf a dyna pam rydym ni’n bwrw ymlaen ag ariannu ymchwil canser o’r ansawdd gorau ar draws Cymru. Ni fyddai dim o’n gwaith yn bosibl heb haelioni ein cefnogwyr ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.