Symud at y prif gynnwys

Y Brechlyn HPV: Cyfle gwirioneddol i leihau canserau ceg y groth a chanserau’r pen a’r gwddf yng Nghymru

Ym mis Ionawr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n lansio ymgyrch newydd i annog disgyblion ysgol Blwyddyn 8 i gael y brechlyn HPV, i atal canserau’n gysylltiedig â HPV yn y dyfodol

Mae HPV yn firws cyffredin sy’n effeithio ar ryw 8 o bob 10 o bobl yn ystod eu hoes. Mae firws HPV, sy’n byw ar y croen, yn ddiniwed fel arfer, a gellir ei ddileu’n hawdd gan system imiwnedd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio

Fodd bynnag, am resymau nad ydynt yn gwbl glir, gall y firws barhau mewn rhai pobl. Gydag amser, gall hyn arwain at newidiadau malaen sy’n achosi canserau ceg y groth, y pidyn, yr anws, y wain/fagina a’r fylfa, ynghyd â mathau penodol o ganserau’r pen a’r gwddf

Dros 100 straen gwahanol o HPV

Mae dros 100 straen gwahanol o HPV, y mae rhai ohonynt yn unig yn ‘uchel eu risg’ ac â’r potensial i achosi canser. Y prif rai a all arwain at ganser yw HPV 16 a HPV 18.

Y newyddion da yw bod y brechlynnau HPV presennol hefyd yn amddiffyn rhag straeniau ‘isel eu risg’ o HPV 6 ac 11. Mae’r straeniau hyn yn achosi dafadennau gwenerol, y clefyd mwyaf cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol yn y DU, sy’n gallu bod yn anodd ei drin ac sy’n aml yn achosi trallod corfforol a seicolegol i ddioddefwyr.

Mae dros 95% o holl ganserau ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV. Ers 2008, mae pob merch ysgol yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn HPV o 12 oed ymlaen – ers 2019, mae hyn hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys bechgyn ym Mlwyddyn 8. Mae’r brechlyn HPV yn hynod effeithiol ac mae astudiaethau niferus, sydd wedi dilyn y carfannau cyntaf i gael eu brechu, wedi dangos gostyngiad mewn canserau ceg y groth cysylltiedig â HPV a newidiadau cyn-ganseraidd o hyd at 90%.

Mae pob menyw ifanc hyd at 25 oed a dynion ifanc a anwyd ar neu ar ôl 1/9/2006 yn gymwys i gael eu himiwneiddio yn erbyn HPV os nad ydynt wedi cael y brechlyn yn barod.

Cynnydd dramatig yn nifer yr achosion o ganserau’r pen a’r gwddf yn gysylltiedig â HPV yn y 25 mlynedd diwethaf

Mae canserau’r pen a’r gwddf sy’n cael eu hachosi gan HPV, sy’n cael ei alw’n feddygol yn ganser oroffaryngol, yn effeithio’n bennaf ar y daflod feddal yng nghefn y geg, y gwddf a gwaelod y tafod. Mae nifer yr achosion o ganser oroffaryngol yn gysylltiedig â HPV wedi tyfu’n gyson dros y degawdau diweddar.

Astudiaeth bwysig a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru ac a gynhaliwyd gan glinigwyr a gwyddonwyr yng Nghaerdydd oedd yr astudiaeth gyntaf i ddangos effaith HPV ar gyfraddau canserau’r pen a’r gwddf yn y Deyrnas Unedig. Darganfu’r astudiaeth fod cyfraddau canser y pen a’r gwddf wedi’u hachosi gan HPV wedi treblu yn y 25 mlynedd diwethaf. Roedd yr achosion hyn yn effeithio’n bennaf ar ddynion iau, rhwng 30 a 60 oed, heb unrhyw hanes blaenorol o ffactorau risg cyffredin fel yfed ac ysmygu’n drwm.

Cyflwynwyd yr astudiaeth hon i lunwyr polisi ac i Gyd-bwyllgor Llywodraeth y DU ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), gan gyfrannu tystiolaeth hanfodol tuag at y penderfyniad i ddarparu’r brechlyn HPV i fechgyn ynghyd â merched, i atal canser.

Rhaglenni brechu

Yn dilyn pandemig Covid-19, gweithiodd GIG Cymru yn ddiflino i ailgychwyn rhaglenni brechu mewn ysgolion i ddisgyblion newydd, yn ogystal ag i ddisgyblion a wnaeth golli allan oherwydd tarfu’r cyfnodau clo. Darparwyd brechiadau pellach trwy glinigau dal i fyny ychwanegol y tu allan i’r ysgol.

Talodd y gwaith caled hwn ar ei ganfed gyda chanrannau derbyn y dos cyntaf yn 66%, 61% a 75% i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 8, 9, a 10 yn y drefn honno. Er gwaethaf yr ymdrechion canmoladwy, mae lle i wella o hyd – mae’r nifer sy’n cael brechlyn HPV islaw imiwneiddiadau eraill ar gyfer heintiau plentyndod, fel PCV i atal clefyd niwmococol, sy’n cael ei dderbyn gan oddeutu 95%.

Yn achos plant ysgol, rhoddwyd brechlynnau HPV yn nodweddiadol yn ôl amserlen dau ddos, gyda’r dos cyntaf yn cael ei roi ym Mlwyddyn 8 neu 9, yna ail ddos flwyddyn yn ddiweddarach. Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod un dos yn ddigon i amddiffyn hyd at 93% yn erbyn y straeniau HPV sy’n achosi mwy na 70% o’r holl achosion o ganserau ceg y groth a chanserau’r pen a’r gwddf.

O 1 Medi 2023 ymlaen, mae rhaglen frechu HPV genedlaethol y DU yn dilyn argymhelliad diweddaredig y JCVI, gan ddefnyddio un dos o’r brechlyn i bawb o dan 25 oed, gan gynnwys y rhai a wnaeth o bosibl golli’r cyfle i gael y brechlyn y tro cyntaf.

Yn achos dynion hoyw a deurywiol, a dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, sydd dros 25 oed, mae amserlen dau ddos o frechlyn HPV yn cael ei argymell o hyd. Argymhellir bod pobl sydd â system imiwnedd wan (imiwnoataliedig), neu sy’n HIV positif, yn cael 3 dos o frechlyn HPV, gan nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd bod llai na 3 dos yn amddiffyn yn ddigonol yn erbyn HPV yn y grwpiau hyn.

Rhoi dros 50 miliwn o frechlynnau HPV yn fyd-eang

Mae’r brechlyn HPV yn ddiogel iawn, gyda thros 50 miliwn o bobl ar draws y byd wedi cael o leiaf un dos ac ymgymryd â monitro manwl ers dros 15 mlynedd. Mae mân sgil-effeithiau sy’n nodweddiadol i lawer o frechlynnau, fel braich ddolurus, a rhai sgil-effeithiau llai cyffredin, fel pen tost, tymheredd uchel a chyfog, sy’n pylu fel arfer o fewn ychydig ddiwrnodau – fodd bynnag, mae sgil-effeithiau difrifol yn brin iawn.

Mae tua 500 o ganserau’n gysylltiedig â HPV yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Gan fod firws HPV yn gallu achosi canserau’r pidyn, yr anws a’r fylfa, ynghyd â chanser ceg y groth a chanserau’r pen a’r gwddf, mae cael y brechlyn yn ffordd syml, ddiogel ac effeithiol o leihau’n sylweddol iawn yr effaith ddifethol y gall y canserau hyn ei chael.

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu HPV genedlaethol sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ewch i: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlyn-hpv/