Jimmy White - y seren snwcer, yn codi arian i elusen ganser yng Nghaernarfon
Digwyddiad Clwb Pêl-droed Caernarfon yn casglu £1,700 i Ymchwil Canser Cymru
Y seren snwcer Jimmy ‘The Whirlwind’ White oedd y gwestai arbennig mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru yng Nghaernarfon yn ddiweddar.
Bu pobl leol yn 'ciwio' i roi cynnig mewn ocsiwn am gyfle i chwarae gyda'r pencampwr snwcer yn y digwyddiad yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caernarfon.
Dyn busnes lleol - Stephen Lilley, oedd yn fuddugol ar ôl rhoi cynnig o £1,500 i chwarae gêm snwcer yn erbyn Jimmy White.
Cafodd yr 80 o westeion a ddaeth i'r noson gyfle i gynnig ar giw snwcer a chês a roddwyd yn hael gan Jimmy, ynghyd â braslun o'r arbenigwr snwcer – gwerthodd y cwbl am £200.
Chwaraeodd Jimmy White hefyd ychydig o fframiau o snwcer gydag aelodau o Gymdeithas Snwcer Bangor a'r Cylch.
Trefnwyd y digwyddiad a gododd dros £1,700 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru – yr elusen ymchwil canser Cymreig gan Ken Henson, Darren Hughes a Llŷr Hughes.
“Roedd yn brofiad anhygoel” meddai Ken, “Daeth tyrfa fawr allan ar y noson ac mae Ken, Darren a Llŷr yn dymuno diolch i bawb a fynychodd. Hoffem ddiolch yn arbennig i'r canlynol a helpodd ni ar y noson - Carwyn, Ellis, Iwan, Mitch y ffotograffydd, y ddau refferî - Rhys, Iorwerth a'n meistr seremonïau - Ifor, yn ogystal â'r wyth chwaraewr snwcer o'r gynghrair a chwaraeodd gyda Jimmy.
“Hefyd, diolch mawr i Jimmy White. Codiwyd £1,700 yn gyfanswm ar gyfer Ymchwil Canser Cymru - elusen sydd yn agos iawn at galonnau bob un ohonom yng Nghaernarfon.”
Dywedodd Nicole Quirk, Rheolwr Codi Arian Ymchwil Canser Cymru:
“Roedd yn bleser mawr cyfarfod â Ken, Darren, Llŷr a Stephen i dderbyn eu rhodd wych i Ymchwil Canser Cymru. Mae'n hyfryd gweld bod chwaraewr snwcer mor adnabyddus wedi mynychu eu digwyddiad a chefnogi eu hymdrechion i godi arian.”
“Mae gennym gefnogwyr gwych yng Nghaernarfon ac mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y gefnogaeth aruthrol rydym yn ei dderbyn gan y gymuned leol yma yn ardal Caernarfon,” ychwanegodd Nicole.
Cynhaliwyd noson godi arian Ymchwil Canser Cymru gyda Jimmy White yng Nghlwb Pel-droed Tref Caernarfon ar Ddydd Gwener 26 Medi.
Gall unrhyw un sydd am drefnu eu digwyddiad codi arian eu hun ar gyfer Ymchwil Ganser Cymru yng ngogledd Cymru gysylltu â Nicole Quirk trwy anfon e-bost at contact_us@cancerresearchwales.org.uk
Gall trigolion ardal Caernarfon hefyd gefnogi Ymchwil Ganser Cymru trwy siopa, rhoi nwyddau neu wirfoddoli yn ei siop ar 11 Stryd y Llyn.