Symud at y prif gynnwys

Cardiau cyfarch newydd Ymchwil Canser Cymru

YDYCH chi wedi gweld ein hystod newydd o gardiau cyfarch?

Maent wedi cael eu dylunio gan y dylunydd graffeg talentog a aned yn y Rhyl, Goldie Moran, yn arbennig ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.

Maent ar gael nawr yn siopau Ymchwil Canser Cymru ledled Cymru.

Mae pedwar dyluniad lliwgar a llon - ‘Ti’n seren’, ‘Diolch blodyn’, ‘Chwarae teg’ ac ‘Amser am gacen’, ac mae pob un ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.

Dywedodd y dylunydd Goldie Moran:

“Mae'n anrhydedd mawr cael gweithio gydag Ymchwil Canser Cymru i ddylunio eu set o gardiau ar gyfer eu siopau. Dwi wrth fy modd yn gweithio gydag elusennau, rwy'n dod o Gymru a chewch hyd i mi mewn siopau elusen bob penwythnos, felly roedd yn teimlo fel y ffit perffaith.

Dwi'n teimlo bod y cardiau mewn siopau elusen yn hen ffasiwn, weithiau, felly roeddwn i eisiau creu dyluniadau modern, hwyliog a lliwgar.

Fe ymgorfforais i streipiau yn y dyluniadau i adleisio'r streipiau beiddgar a gaiff eu defnyddio ym mrand Ymchwil Canser Cymru, ond heb iddynt edrych yn gorfforaethol. Fe ddefnyddiais i eu palet brand lliwgar o binc, gwyrdd, glas a melyn, a thynnu darluniau syml yn ddigidol.

Dwi wedi sylwi ar donnau a chregyn bylchog ym mhobman eleni, felly fe ychwanegais i donnau i roi gwedd fwy hwyliog i'r cardiau sy’n dilyn tuedd gyfoes."

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:

"Dwi mor ddiolchgar i Goldie am ddylunio'r cardiau gwych hyn i ni a defnyddio ei doniau i'n helpu ni yn ein cenhadaeth i uno Cymru yn erbyn canser drwy ymchwil o'r radd flaenaf.

“Beth gwell na dylunydd o Gymru yn dylunio cardiau cyfarch ar gyfer elusen canser yng Nghymru i roi llawenydd i fywydau pobl gan helpu i godi arian gwerthfawr i wthio ffiniau ymchwil canser yng Nghymru?

"Mae'r cardiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pob oedran a phob achlysur ac maen nhw'n hedfan oddi ar y silffoedd, felly prynwch rai yn eich siop Ymchwil Canser Cymru leol tra bod stociau'n para.