Symud at y prif gynnwys

Pam mae pobl awtistig yn llai tebygol o gael profion ceg y groth?

Prosiect a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru yn ymchwilio’r sefyllfa

Pam mae pobl awtistig yn llai tebygol o fynd am brawf ceg y groth?

Pam mae pobl awtistig yn llai tebygol o fynd am brawf ceg y groth i helpu atal canser serfigol nag pobl nad ydynt yn awtistig?

Mae'r maes hwn sydd heb ei ymchwilio'n llawn yn destun astudiaeth newydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe gyda chyllid gan Ymchwil Canser Cymru.

Canser serfigol yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod dan 35 oed yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, dim ond 69 y cant o bobl yn y boblogaeth ehangach sy'n gymwys i gael sgrinio ceg y groth yng Nghymru sy'n cael eu profi.

Ond nid oes gwybodaeth ar gael am faint o bobl awtistig cymwys yng Nghymru sy'n mynd am brawf smotyn.

Hanner o bobl awtistig yn mynd am brawf ceg y groth

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y ffigwr yn isel a dangosodd ymchwil o Sweden mai ychydig dros hanner pobl awtistig (50.6 y cant) yno sy'n cymryd rhan mewn sgrinio ceg y groth.

Mae methu mynychu profion ceg y groth yn cynyddu'r risg o bobl farw o ganser.

Nawr, bydd y tîm ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad Dr Aimee Grant, yn edrych yn fanwl ar sgrinio ceg y groth yng Nghymru ymhlith pobl awtistig.

Bydd yr ymchwil yn archwilio pam mae'n ymddangos nad ydi rhaglenni sgrinio ceg y groth yn cwrdd ag anghenion pobl awtistig.

I wneud hyn, bydd gwyddonwyr yn gweithio gyda phobl awtistig a gweithwyr iechyd ledled Cymru i nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd Dr Aimee Grant, Athro Cysylltiol mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arwain y prosiect ymchwil: "Fel person awtistig, rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi i bobl awtistig fynd am brofion ceg y groth ac mae hynny hefyd yn rhywbeth sydd wedi codi pan ofynnais i bobl awtistig eraill am eu profiadau.

"Y peth sy'n wirioneddol syfrdanol yw ei bod yn ymddangos bod tua hanner yn unig o bobl awtistig wedi cael prawf ceg y groth. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd gall profion ceg y groth ddod o hyd i broblemau yn gynnar fel y gellir eu trin cyn iddynt droi'n ganser."

Bydd prosiect ymchwil Dr Grant yn edrych ar ymchwil gyfredol i ofyn pam nad yw gwasanaethau sgrinio serfigol yn diwallu anghenion pobl awtistig ac yn cynnal arolwg ledled Cymru i wneud hynny.

Bydd eu tîm hefyd yn gweithio gydag ac ymgynghori â phobl awtistig a gweithwyr iechyd i gynyddu eu gwybodaeth a hyder mewn profi ceg y groth.

Gwneud pethau'n haws i bobl awtistig fynd am brawf ceg y groth

"Bydd ein prosiect newydd yn gofyn beth ellir ei wneud i wneud pethau'n haws i bobl awtistig fynd am brawf ceg y groth. Byddwn yn ystyried popeth o'r llythyrau y mae pobl yn eu cael yn y post i drefnu prawf ceg y groth a beth sy'n digwydd yn ystod y prawf," meddai Dr Grant.

"Rydym hefyd yn ymgymeryd a'r astudiaeth hon ar y pryd iawn. Yn fuan yng Nghymru, bydd pobl nad ydynt yn mynd am brawf ceg y groth yn cael eu gofyn i wneud hunan-brawf gartref, ond nid oes neb wedi gofyn i bobl awtistig am eu barn nhw am wneud hyn eto."

Mae cyllid Dr Grant yn un o 20 prosiect y mae Ymchwil Canser Cymru yn ei gyhoeddi fel rhan o'i fuddsoddiad diweddaraf o £2.86 miliwn mewn prosiectau ymchwil canser o'r radd flaenaf yng Nghymru.

Hwn yw'r pecyn cyllido yw'r mwyaf y mae'r elusen ymchwil canser Gymreig erioed wedi'i gyhoeddi yn ei hanes 60 mlynedd.

Cyhoeddiad ariannu mwyaf erioed Ymchwil Canser Cymru

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: "Mae'n fraint gennyf heddiw allu cyhoeddi'r rownd ddiweddaraf hon o gyllid ymchwil canser gan Ymchwil Canser Cymru, ein buddsoddiad mwyaf erioed, er mwyn helpu i ysgogi arloesedd mewn diagnosis a thriniaethau canser yng Nghymru fel y gallwn ddod â thriniaethau gwell yn agosach at adref a darparu gobaith i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser.

"Rydym yn arbennig o falch o allu ariannu prosiect Dr Aimee Grant gan ei fod yn faes sydd prin wedi ei ymchwilio, ac yn un yr ydym yn hynod hyderus y bydd yn dod â newidiadau sylweddol i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u hanwylon ledled Cymru."

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd