Philippa Tuttiett yn torri'r ribbon ar siop ‘pop-up’ Trago Mills
Seren rygbi Cymru – Philippa, yn agor siop newydd Ymchwil Canser Cymru
Torodd y seren rygbi merched Cymru - Philippa Tuttiett, y rhuban wrth iddi agor siop newydd yn Trago Mills Merthyr Tudful, ar brynhawn Sadwrn.
Fe agorodd cyn-gapten rygbi merched Cymru a’r sylwebydd chwaraeon siop ‘pop-up’ Ymchwil Canser Cymru yn y ganolfan siopa boblogaidd.
Cafodd Philippa groeso cynnes gan siopwyr, staff Ymchwil Canser Cymru a mascot yr elusen – Streipen y Ddraig.
“Mae'n bleser gennyf - fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, i agor ei siop newydd yn Trago Mills Merthyr Tudful”, meddai Philippa.
“Ymchwil Canser Cymru yw’r elusen ymchwil canser Cymreig, ac mae'n ariannu ymchwil canser o'r radd flaenaf yma yng Nghymru i ganfod ffyrdd cyflymach o ddiagnosio canser a thriniaethau mwy caredig a mwy effeithiol ar gyfer y clefyd.
“Felly, dewch i gefnogi gwaith pwysig Ymchwil Canser Cymru trwy siopa yma yn Trago Mills a cyfrannwch nwyddau o ansawdd i’w ail-werthu gan yr elusen, fel y gallwch chi hefyd chwarae eich rhan wrth helpu i uno Cymru yn erbyn canser.”
Mae'r siop newydd yn gwerthu amrywiaeth o eitemau gan gynnwys cardiau Nadolig; dillad i fenywod, plant a dynion, nwyddau cartref a bric-a-brac.
Yn ogystal, mae Ymchwil Canser Cymru yn derbyn nwyddau o ansawdd i’w gwerthu yn ei siop ac mae hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod a helpu i'w rhedeg.
Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:
“Rwy'n ddiolchgar iawn i'n llysgennad anhygoel – Philippa Tuttiett am ddod draw i agor ein siop ddiweddaraf yn Trago Mills a dod â chymaint o hwyl a llawenydd i'r digwyddiad.”
“Bydd y siop ar agor bob dydd cyn y Nadolig ac mae ganddi fargeinion tymhorol gwych fel anrhegion mân a chardiau Nadolig, felly sicrhewch eich bod yn taro’ch pen drwy’r drŵs y tro nesaf rydych yn Trago Mills.”
Mae siop Ymchwil Canser Cymru yn Trago Mills ar agor saith diwrnod yr wythnos o 10:00 y bore.
Mae gan Ymchwil Canser Cymru hefyd siop aar 126 Stryd Fawr Merthyr Tydfil