Symud at y prif gynnwys

Enwogion Cymraeg yn annog y cyhoedd i uno yn erbyn canser ar 24 Medi

Mae enwogion Cymraeg yn annog pobl Cymru i ddangos eu bod yn uno yn erbyn canser ar Ddydd Ymchwil Canser y Byd – 24 Medi, trwy wisgo dillad streipïog

Daw wrth i Ymchwil Canser Cymru baratoi i redeg ei ymgyrch flynyddol Dangosa dy Streips ar y diwrnod i helpu i ariannu ei waith ymchwil canser arloesol yma yng Nghymru.

Mae Miss UK – Millie-Mae Adams o Gaerdydd, y personoliaeth deledu a radio Mari Grug, a'r cyn rhyfelwr rygbi Cymru a'r Olympaidd – Nigel Walker, ymysg y rheini sydd yn cefnogi'r ymgyrch.

Eleni, gall y cyhoedd gymryd rhan yn Dangosa dy Streips trwy ddysgu dawns newydd, fun a grëwyd gan y dylanwadwr TikTok Cymreig Lewis Leigh.

Gallant rannu fideo o'u dawns neu lun ohonyn nhw yn eu dillad streipiog ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #DangosaDyStreips a thagio @ymchwilcansercymru.

Bydd Castell Caerdydd hefyd yn cael ei oleuo yn lliwiau Ymchwil Canser Cymru ar gyfer Dangosa dy Streips i ddathlu Diwrnod Ymchwil Canser y Byd 2025.

Meddai Adam Fletcher, Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru:

“Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn ariannu ymchwil sy’n dod â gobaith heddiw a thrawsnewid bywydau yfory – ond ni allwn wneud hyn heb gefnogaeth pobl Cymru.

“Mae Dangosa dy Streips ar 24 o Fedi yn ddiwrnod i uno yn erbyn canser trwy wisgo streips, cael hwyl a chodi arian hanfodol ar gyfer ymchwil canser yma yng Nghymru - os gwelwch yn dda, cymerwch ran.

“Ers ei lansio dair blynedd yn ôl, mae Dangosa dy Streips wedi dod a miloedd o bobl ynghyd ledled Cymru – pob un wedi uno gyda’r un nod mentrus, gwych: trechu canser.”

Mae Dangosa dy Streips wedi'i ysbrydoli gan logo striped Ymchwil Canser Cymru sy'n seiliedig ar geliau DNA a ddefnyddir gan wyddonwyr i ddod o hyd i gelloedd canser.

Mi fydd ymgyrch eleni yn fwy uchelgeisiol ac mae Ymchwil Canser Cymru wedi gweithio gyda seren TikTok Cymru Lewis Leigh i greu dawns newydd i gynnwys pawb yn ei waith trawsnewidiol.

Wrth sôn am ei gefnogaeth i ymgyrch Dangosa dy Streips eleni, dywedodd Lewis Leigh:

"Mae canser wedi cyffwrdd â'm teulu mewn ffordd mor bersonol ar ôl colli fy Bampi, felly mae cefnogi Ymchwil Canser Cymru yn golygu llawer i mi.

"Roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r ymgyrch Dangosa dy Streips oherwydd ei bod yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd ledled Cymru mewn ffordd bositif, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a chyllid a fydd yn helpu pobl yma gartref go iawn.

“Mae dawns wedi bod yn ffordd i mi o gysylltu â phobl, ac rwy'n gobeithio bod y rwtîn hon yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan, cael hwyl, a chefnogi'r ymchwil hanfodol a allai un diwrnod achub bywydau.”