Symud at y prif gynnwys

Galwad ar gyfer Grantiau PhD a Phrosiectau 2025

SYLWER: O GANLYNIAD I DDIRNADAETH DDIGYFFELYB, NI FYDD GWAHODDIADAU I GYFLWYNO CEISIADAU LLAWN YN CAEL EU HANFON HYD AR ÔL 14 GORFFENNAF 2025. DYDDIAD CAU CEISIADAU LLAWN YW DYDD LLUN, 29 MEDI 2025 AM 5YP.

Dyddiad dechrau

28 Ebr 2025

Statws

Ar Gau

Mae gan Ymchwil Canser Cymru hanes balch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser drwy ariannu ysgoloriaethau PhD, yn ogystal â galluogi ymchwilwyr ifanc i adeiladu eu gyrfaoedd drwy grantiau am brosiectau.

Felly, rydyn ni’n falch o wahodd cynigion ar gyfer prosiectau PhD a rhai ôl-ddoethurol. Gall y rhain fod yn ymwneud ag unrhyw faes sy'n gysylltiedig â chanser, a dydyn nhw ddim wedi'u cyfyngu i unrhyw fath penodol o ganser.

Dylai'r cynnig gyd-fynd â'n Strategaeth Ymchwil sy'n cynnwys pedair thema eang:

  • Darganfod ac Ymchwil Drosiadol
  • Sgrinio, Atal a Diagnosis Cynnar
  • Gwell triniaethau
  • Ymchwil Systemau Iechyd a Chanlyniadau

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich cynnig yn addas, cysylltwch â'n Pennaeth Ymchwil, Dr Lee Campbell, drwy e-bost: lee.campbell@cancerresearchwales.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am alwadau grant Ymchwil Canser Cymru, gan gynnwys ein Cod Ymddygiad Ymchwil, gweler ein tudalen Gwybodaeth i Ymgeiswyr.

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at grants@cancerresearchwales.org.uk

Dyddiadau Allweddol

Dyddiad Cau Mynegi Diddordeb

9 Mehefin 2025

Gwahoddiad i Gyflwyno Cais Llawn

27 Mehefin 2025

Dyddiad Cau am Geisiadau

29 Medi 2025

Mae Ymchwil Canser Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio'r dyddiadau hyn lle bo'n angenrheidiol.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd