Symud at y prif gynnwys

Gavin Moore - Cadeirydd

Gavin Moore yw Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru. Daw Gavin o Gaerdydd ac mae ganddo dros 25 mlynedd mewn rolau rheoli ariannol ac arwain rhaglenni ar gyfer cwmnïau enwog gan gynnwys BT, CBRE, EE ac Orange. Dechreuodd ei yrfa fel cyfrifydd siartredig cyn symud i'r sector preifat ac mae ganddo arbenigedd mewn arwain a chyflwyno rhaglenni newid busnes cymhleth, llywodraethu corfforaethol a chyllid a gweithrediadau busnes cyffredinol. 

Mae cysylltiadau Gavin ag Ymchwil Canser Cymru yn mynd yn ôl mor bell â 2011 pan gafodd ei benodi'n un o ymddiriedolwyr y sefydliad. Bu hefyd yn Drysorydd yr elusen rhwng 2016 a 2023 ac yn gadeirydd pwyllgor cyllid Ymchwil Canser Cymru. Yn ogystal, mae gan Gavin gysylltiadau teuluol ag Ymchwil Canser Cymru gan fod ei dad - yr Athro John Moore, wedi dal nifer o rolau uwch dros 40 mlynedd gyda'r elusen, gan gynnwys Llywydd.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd