Cenhadaeth 60
Mae 2026 yn garreg filltir nodedig i’n helusen, wrth i ni droi’n 60 oed! Cenhadaeth 60 yw ein gwahoddiad i fusnesau Cymru fod yn rhan o’r dathliad hwn a helpu i lywio’r 60 mlynedd nesaf.
Rydym yn galw ar 60 o fusnesau Cymru i ddod yn bartneriaid gyda ni trwy gydol blwyddyn ein pen-blwydd yn 60 oed, gan sefyll ochr yn ochr â ni yn ein gweledigaeth i weld Cymru’n unedig yn erbyn canser, trwy ymchwil o’r radd flaenaf. Gyda’n gilydd, byddwn yn lleihau effaith canser ac yn gwella cyfraddau goroesi annerbyniol.
Pam mae Cenhadaeth 60 yn bwysig
Ers 6 degawd, mae cefnogaeth ein cymuned wedi gyrru ymchwil sy’n achub bywydau ac sydd wedi dod â gobaith i filoedd o deuluoedd. Mae Cenhadaeth 60 yma i ddathlu’r gwaddol hwnnw. Bydd pob partneriaeth sy’n cael ei llunio trwy Genhadaeth 60 yn helpu i ariannu ymchwil hanfodol, cefnogi arloesi a’n dwyn yn agosach at fyd lle nad yw canser yn cyfyngu mwyach ar fywyd.
Sut gall eich busnes gymryd rhan
Bwriedir i Genhadaeth 60 fod yn hyblyg, yn ystyrlon ac yn effeithiol. P’un a ydych chi’n fusnes bach lleol neu’n sefydliad mawr, byddwn yn gweithio gyda chi i greu partneriaeth sy’n adlewyrchu eich gwerthoedd a’ch uchelgeisiau. Mae ffyrdd o gymryd rhan yn cynnwys:
- Codi arian trwy heriau gan staff, digwyddiadau neu ymgyrchoedd.
- Rhoddion corfforaethol unigol, neu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.
- Gwirfoddoli, cynnig eich amser, eich sgiliau neu’ch arbenigedd.
- Stoc neu roddion mewn nwyddau y gallwn eu gwerthu yn ein siopau.
Bydd pob cyfraniad, bach neu fawr, yn helpu i symud ein cenhadaeth yn ei blaen.
Ymunwch â ni yn 2026
Gyda’n gilydd, gallwn anrhydeddu 60 mlynedd o gynnydd a chyflymu datblygiadau yfory. Byddwch yn un o’r 60 busnes o Gymru sy’n helpu i drawsnewid bywydau a chreu dyfodol lle nad yw canser yn ein diffinio ni mwyach.